🚀 Newid’s September Newsletter

Newid banner. Newid is delivered in partnership by WCVA, Cwmpas and ProMo-Cymru, funded by Welsh Government.

Welcome to this month's Newid newsletter.

This is where we share information on digital training, support and resources to help third sector organisations with digital. 

If you have any content suggestions or feedback, get in touch at lucyp@promo.cymru 


🧑‍🏫 Upcoming Training and Support


AI & Automation for the Third Sector

From our discovery research we heard that outdated systems, clunky CRMs and manual data collection were just a few things taking valuable time away from engaging with your service users. 

That’s why we’re running a course to experiment with ways AI and Automation can help save you and your organisation precious time so you can spend it where you’re needed the most. Join our 8-week design challenge to learn how these tools can save you time and enhance your services. From prototyping workshops to one-on-one mentoring, we’ll support you every step of the way. Register now and start your journey on October 1st.

Starting date: October 1st 2 pm - 5 pm


✍️ Resources

Newid’s Digital adoption self-assessment tool

We want to empower you to transform the way your organisation uses digital with quick wins to more strategic changes. We have designed our self-assessment tool to help third sector organisations to learn where they are on their digital journey, and what practical steps you can take to develop.

Cwmpas's Digital Toolkit

Cwmpas has curated a Digital Toolkit with resources in each chapter, including examples from across the commercial and charity sectors that demonstrate how to easily implement digital evolution.Cwmpas’s Digital Toolkit



📰 News

Charity Digital have recently announced they will be holding their first ever Artificial Intelligence (AI) Summit in October. 

The event will explore the ethics and risks of AI, discuss the benefits and implications of AI for the Charity sector, as well as teaching practical and applicable skills.

A recent article by The Catalyst explores how the 2024 Charity Digital Skills Report has revealed ‘systemic injustices in digital work’.

According to the report, small, marginalised charities are facing ‘significant digital inequalities’, and need more support to address these issues.. 

Some key stats highlighted include:

  • 41% of Black led charities struggle to find a funder who will support a digital project, compared to 21% of the main sample and 25% of small charities.
  • 65% of Black led charities are struggling to find funds to invest in devices, software and infrastructure.
  • Only 15% of services are developed by diverse teams.
  • 30% are not doing user research with diverse groups.
  • Only 18% of charities felt it was very important that digital suppliers involve people with lived experience - less than 1 in 5.

Find out more in the Catalyst’s recent article below, as well as how all Third Sector organisations can review their priorities around digital, and see how it intersects with their diversity and inclusion goals. 

The hunt for the next Twitter

With all the well-publicised issues with X (formerly Twitter), tech news-source The Verge has been providing up-to-date coverage on the ‘hunt for the next Twitter’.

Whether it’s Mastodon, Substack Notes, or the upcoming Instagram Threads, 2024 has given the Third Sector a lot more options, and a lot more competition for X!

Read The Verge’s latest coverage below


🎧 Something to listen to over the weekend

Something to listen to over the weekend 

Produced by Charity Digital,  Phil Dearson, the Digital Director at WPNC talks AI, explains some of the best ways that charities can use it, and suggests some ways you should practise caution.


📬 Care to share?

If you’ve found this newsletter helpful, why not send it on to a colleague? We appreciate all of the support. 

If you've had this email forwarded to you and you'd like to join our mailing list, click the button below.

👋 Hwyl am y tro!


🚀 Cylchlythyr Newid – mis Medi

 

Croeso i gylchlythyr Newid y mis hwn.

Yma, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am gymorth, adnoddau a hyfforddiant digidol er mwyn helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddefnyddio technoleg ddigidol. 

Os oes gennych chi adborth, neu unrhyw awgrymiadau am y cynnwys, cysylltwch â lucyp@promo.cymru 


🧑‍🏫 Hyfforddiant a Chymorth ar y Gweill 

Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer y Trydydd Sector: Cwrs newydd yn dechrau 1 Hydref

Fel rhan o’n hymchwil darganfod, daethom i ddeall fod systemau hen ffasiwn, systemau CRM clogyrnaidd a dulliau casglu data â llaw yn ddim ond rhai o’r pethau sy’n cyfyngu ar eich amser i allu ymgysylltu â defnyddwyr eich gwasanaeth.

Dyna pam ein bod yn cynnal cwrs i arbrofi sut y gall deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio helpu i arbed amser gwerthfawr i chi a’ch sefydliad er mwyn i chi allu treulio mwy o amser yn gwneud y pethau pwysig. Ymunwch â’n her ddylunio 8 wythnos i ddysgu sut gall yr adnoddau hyn arbed amser i chi a gwella eich gwasanaethau. Boed yn weithdai prototeipio neu’n sesiynau mentora un-i-un, byddwn yn eich cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Cofrestrwch nawr a dechreuwch ar eich taith ar 1 Hydref.

Dyddiad dechrau: 1 Hydref, 2pm – 5pm


✍️ Adnoddau

 

Teclyn hunanasesu mabwysiadu technoleg ddigidol Newid

Rydyn ni eisiau eich grymuso i drawsnewid y ffordd mae eich sefydliad yn defnyddio technoleg ddigidol gydag atebion cyflym i newidiadau mwy strategol. Rydyn ni wedi dylunio ein teclyn hunanasesu i ganiatĂĄu i sefydliadau’r trydydd sector ddysgu ble maen nhw arni ar eu taith ddigidol, a pha gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i ddatblygu. 

 Pecyn Cymorth Digidol Cwmpas

Mae Cwmpas wedi creu Pecyn Cymorth Digidol gydag adnoddau ym mhob pennod, gan gynnwys enghreifftiau o bob rhan o’r sectorau masnachol ac elusennol sy’n dangos sut i roi'r esblygiad digidol ar waith yn rhwydd.


📰 Newyddion


Mae Charity Digital wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddant yn cynnal eu Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial gyntaf erioed fis Hydref.

Bydd y digwyddiad yn edrych ar foeseg a risgiau deallusrwydd artiffisial, yn trafod manteision a goblygiadau deallusrwydd artiffisial i’r sector elusennol, ac yn addysgu sgiliau ymarferol a pherthnasol.

Mae erthygl ddiweddar gan The Catalyst yn archwilio sut mae Adroddiad Sgiliau Charity Digital 2024 wedi datgelu ‘anghyfiawnderau systemig mewn gwaith digidol’.

Yn ôl yr adroddiad, mae elusennau bach ar y cyrion yn wynebu ‘anghydraddoldeb sylweddol o ran technoleg ddigidol’, ac mae angen rhagor o gymorth arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Dyma rai o’r prif ystadegau a amlygwyd:

● Mae 41% o elusennau sy’n cael eu harwain gan Bobl Ddu yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyllidwr a fyddai’n cefnogi prosiect digidol, o’i gymharu â 21% o’r prif sampl a 25% o elusennau bach.

● Mae 65% o elusennau sy’n cael eu harwain gan Bobl Ddu yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyllid i fuddsoddi mewn dyfeisiau, meddalwedd a seilwaith.

● Dim ond 15% o wasanaethau sy’n cael eu datblygu gan dimau amrywiol.

● Nid yw 30% ohonynt yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda grwpiau amrywiol.

● Dim ond 18% o elusennau sy’n teimlo ei bod yn bwysig iawn bod cyflenwyr digidol yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol - llai nag 1 o bob 5.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod yn erthygl ddiweddar The Catalyst, yn ogystal â gwybodaeth am sut gall Sefydliadau’r Trydydd Sector adolygu eu blaenoriaethau o ran technoleg ddigidol, a gweld sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’u nodau o ran amrywiaeth a chynhwysiant.

Chwilio am y Twitter nesaf

Gyda phroblemau’n ymwneud â X (Twitter yn flaenorol) yn cael llawer o sylw ar hyn o bryd, mae The Verge, y ffynhonnell newyddion am dechnoleg, wedi bod yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o ‘Chwilio am y Twitter nesaf’.

Boed yn Mastodon, Substack Notes, neu Instagram Threads sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, mae 2024 wedi cynnig llawer mwy o opsiynau i’r Trydydd Sector, ac wedi creu llawer mwy o gystadleuaeth i X!

Darllenwch erthygl ddiweddaraf The Verge isod


🎧 Rhywbeth i wrando arno dros y penwythnos

Yn y bennod hon, sydd wedi’i chynhyrchu gan Charity Digital, mae Phil Dearson, Cyfarwyddwr Digidol WPNC, yn trafod Deallusrwydd Artiffisial, yn egluro rhai o’r ffyrdd gorau y gall elusennau ei ddefnyddio, ac yn awgrymu sut y dylech chi fod yn ofalus.


📬 Hoffet ti rannu?

Os yw’r cylchlythyr hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi, beth am ei anfon at gydweithiwr? Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth.  

Os yw’r e-bost hwn wedi cael ei anfon atoch a’ch bod yn awyddus i ymuno â’n rhestr bostio, cliciwch y botwm isod.

👋 Hwyl am y tro!

Like this post? Click below to share: