Wythnos Arweinwyr Digidol 2024 14eg - 18fed Hydref

7fed Wythnos Arweinwyr Digidol y DU. Byddwch yn rhan o wythnos genedlaethol y DU yn cyflymu trawsnewid digidol
Llun gan Digital Leaders
Mae Wythnos Arweinwyr Digidol yn ôl. Mae dros 150 o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim yn ystod yr wythnos sydd yn canolbwyntio ar Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial. Gwyliwch ar-lein neu ar-alw, mae’n gyfle gwych i annog sgyrsiau am ddigidol ac i ddatblygu’r Trydydd Sector yng Nghymru.

Beth yw Wythnos Arweinwyr Digidol?  

P'un a ydych chi'n weithiwr digidol proffesiynol profiadol neu ar gychwyn eich gyrfa, mae gan Wythnos Arweinwyr Digidol y DU rywbeth i bawb. Bydd yr wythnos yn cynnwys trafodaethau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys Cynhwysiant Digidol, Sero Net, Tuedd a Moeseg, a Deallusrwydd Artiffisial er Budd. Mae holl sesiynau am ddim a gellir eu mynychu'n fyw neu eu gwylio wedyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bartner y digwyddiad. 

Pryd a ble?  

Mae'r digwyddiad yn cynnwys cyfuniad o gynadleddau mewn person a chyflwyniadau ar-lein. Gallwch weld amserlen gyflawn yr wythnos ar eu gwefan. Mae'r sesiynau'n amrywio o 30 munud i awr.  

Pam ddylai Sefydliadau Trydydd Sector Cymru fynychu?  

Gyda chyfraniadau gan dros 150 o siaradwyr arbenigol yn cynrychioli’r sector cyhoeddus, busnesau, elusennau, a'r byd academaidd, mae’n gyfle gwych i Sefydliadau Trydydd Sector ymgysylltu ag arweinwyr digidol sydd yn dylanwadu ar ddyfodol technoleg ddigidol. Mae'n hanfodol cael cynrychiolaeth o Drydydd Sector Cymru mewn sgyrsiau am ddigidol er mwyn helpu datblygu galluoedd digidol y sector.  

Pa sgyrsiau sydd yn digwydd? 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu