Sut mae Romodels wedi gwella’r copi ar eu gwefan i gyrraedd eu cynulleidfaoedd targed

Mae Romodels yn gwneud gwaith gwych i ysbrydoli plant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru drwy eu cyflwyno i fodelau rôl (Romodels) mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Fodd bynnag, gwelsant nad oedd ysgolion ac athrawon, arianwyr posibl na’u cefnogwyr yn gallu dod o hyd iddynt ar-lein. Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio sut mae datblygu eu presenoldeb ar-lein a gwella’r cynnwys ar eu gwefan wedi galluogi Romodels i estyn allan ac ymgysylltu gyda’u cynulleidfaoedd targed.
Y broblem
Nododd Romodels yr angen i wella eu presenoldeb digidol er mwyn iddynt allu cysylltu gyda’u cynulleidfaoedd targed yn effeithiol. Felly, fe wnaethon nhw gysylltu â Newid a chawsant gymorth drwy ein gwasanaeth mentora.
Prif fylchau a nodwyd gan Newid
- Anodd ei ganfod: Nid oedd y wefan wedi’i hoptimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio (SEO), gan ei wneud yn anodd i athrawon a chefnogwyr ddod o hyd i Romodels with chwilio am adnoddau addysg ar yrfaoedd.
- Dim presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol: Nid oedd gan Romodels unrhyw sianeli cyfryngau cymdeithasol gweithredol. Roedd hynny’n golygu nad oeddent yn gallu rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach ac y gallant golli cyfleoedd newydd posibl.
- Copi heb ei dargedu ar y wefan: Nid oedd eu gwefan yn cynnwys galwadau clir i weithredu, gan ei wneud yn anoddach i ymwelwyr ddeall yr hyn sydd ar gael a chymryd camau ystyrlon, megis cofrestru neu gefnogi’r elusen.
Roedd yr heriau hyn yn cyfyngu ar allu Romodels i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith pwysig, sicrhau cyllid ac ehangu eu heffaith.
Y gefnogaeth a dderbyniwyd
Trwy wasanaeth hyfforddi Newid, derbyniodd Romodels y gefnogaeth ganlynol
- Mentora un i un: Cyngor penodol ar greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
- Adroddiad o adolygiad digidol: Argymhellion yr oedd modd eu gweithredu i wella swyddogaeth y wefan a datblygu presenoldeb ystyrlon ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Cynllunio strategol: Cefnogaeth i flaenoriaethu prif gamau gweithredu i helpu i atgyfnerthu ymgysylltiad digidol gydag ysgolion, arianwyr a chefnogwyr.
Canlyniadau
Gydag arweiniad Newid, mae Romodels wedi gosod sylfaen ar gyfer presenoldeb mwy pwerus ar-lein.
Mae’r cymorth a’r gefnogaeth fentora wedi arwain at y canlynol
- Gwella swyddogaethau’r wefan: Roedd gan Romodels wefan ddiddorol, ond roedd angen galwadau mwy amlwg i weithredu er mwyn arwain defnyddwyr mewn modd mwy effeithiol. Fe wnaeth Newid argymell addasiadau i wneud gwybodaeth bwysig yn fwy hygyrch, megis gosod prif negeseuon a dolenni cofrestru mewn mannau amlwg i helpu defnyddwyr i wybod sut i ymgysylltu gyda’r elusen.
- Lansiad ar y cyfryngau cymdeithasol: Creodd Romodels gyfrifon ar Facebook ac Instagram sy’n eu galluogi i rannu eu cenhadaeth a rhyngweithio gyda chynulleidfaoedd allweddol yn uniongyrchol am y tro cyntaf. Darparodd Newid arweiniad o ran datblygu strategaeth, dewis y platfformau cywir, a defnyddio negeseuon wedi’u targedu.
Effaith
Gyda phresenoldeb cryfach ar-lein, mae Romodels wedi gallu cyrraedd mwy o ysgolion, arianwyr a chefnogwyr. O ganlyniad, maent wedi recriwtio modelau rôl newydd gan gynnwys Levi Tyrell Johnson, perfformiwr talentog a fu’n serennu’n ddiweddar yn y sioe gerdd lwyddiannus Hamilton, a Harry Wilson, pêl-droediwr o Gymru sy’n chwarae i dîm Fulham.
Yr hyn a ddywedodd tîm Romodels
“Mae cymorth Newid wedi bod yn werthfawr iawn i helpu Romodels sefydlu presenoldeb ar-lein a’n helpu i gynyddu ein heffaith ar ddysgwyr ledled Cymru. Mae’r newidiadau hyn yn ein galluogi i gysylltu gydag ysgolion, arianwyr a chefnogwyr mewn modd mwy effeithiol a’n galluogi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, pobl sy’n arwain newid, doniau creadigol, peirianwyr, entrepreneuriaid, gwyddonwyr, arwyr chwaraeon ac arloeswyr ledled Cymru.”
Derbyn cymorth fel hyn
Mae hanes llwyddiant Romodels yn dangos budd mentora ac arweiniad digidol wedi’u teilwra. Os ydych chi’n chwilio am gymorth gyda mater digidol, cysylltwch â ni.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu