Sut mae Role Play Lane wedi llwyddo i ddatblygu eu gwefan a’u strategaeth gyfathrebu i gyrraedd cwsmeriaid ac arianwyr newydd

Dwy ferch ifanc yn gwenu wrth chwarae fel doctoriaid. Maent yn defnyddio stethosgop a monitor pwysedd gwaed ar fabi dol.
Llun gan Freepik
Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio sut mae datblygu gwefan newydd ac atgyfnerthu eu strategaeth farchnata wedi galluogi RPL i ymestyn eu cyrhaeddiad. 

Mae Role Play Lane (RPL) yn sefydliad nid er elw sy’n cefnogi addysg, iechyd meddwl a llesiant plant, rhieni a theuluoedd. Mae rhai o’r ffyrdd y maent yn cyflawni hyn yn cynnwys sesiynau chwarae rôl, sesiynau llesiant i’r teulu, a grwpiau babanod a phlant ifanc.

 

Y broblem 

Er gwaethaf presenoldeb cryf ar Instagram a Facebook, roedd RPL yn wynebu heriau a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i estyn allan. Un o’r prif fylchau a nodwyd oedd nad oedd ganddynt wefan bellach. Roedd hyn yn broblem oherwydd pe byddai Facebook ac Instagram yn cau, byddai holl gynnwys a chysylltiadau busnes RPL hefyd yn diflannu. Er bod y cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol, roedd yn bwysig cael gwefan sy’n egluro’r hyn y mae RPL yn ei wneud, pam, a sut maen nhw’n gweithredu. 

 

Y gefnogaeth a dderbyniwyd 

Darparodd Newid wasanaeth mentora i helpu RPL i ddatblygu strategaeth ddigidol fwy effeithiol.

Roedd y gefnogaeth yn canolbwyntio ar y canlynol

  • Datblygu gwefan: Canllawiau ar yr hyn sydd angen ei ystyried wrth greu gwefan. Sut i ddefnyddio gwefan i sefydlu hygrededd a darparu canolbwynt lle gall arianwyr a chwsmeriaid chwilio am wybodaeth. 
  • Hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol: Hyfforddiant ar greu hysbysebion wedi’u targedu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys defnyddio adnodd Facebook Ads Manager yn hytrach na hybu negeseuon i helpu i sicrhau cyrhaeddiad. 
  • Marchnata dros e-bost: Cyflwyniad i Mailchimp fel system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) i hwyluso’r gwaith o gysylltu â chwsmeriaid a chynhyrchu cylchlythyrau rheolaidd. 
  • Creu persona i gynrychioli cynulleidfaoedd: I helpu gyda phrinder capasiti, fe wnaethom ni eu cynghori i greu personâu i gynrychioli defnyddwyr nodweddiadol eu gwasanaethau i helpu i benderfynu ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol y dylent eu blaenoriaethu. 
  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer creu cynnwys: Trafodaeth ynglŷn â defnyddio adnoddau wedi’u pweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial i greu syniadau cychwynnol ar gyfer cynnwys. 

 

Canlyniadau 

Arweiniodd y mentora at welliannau gwirioneddol ym mhresenoldeb digidol a gweithrediadau RPL

  • Lansio’r wefan: Creodd RPL wefan fel canolbwynt i’r wybodaeth er mwyn cynyddu ei hygrededd ymysg arianwyr a rhoddwyr. 
  • Gwella ymgysylltiad: Hysbysebion wedi’u targedu ar y cyfryngau cymdeithasol i gynyddu cyrhaeddiad. 
  • Gwella dulliau o greu clipiau fideo byr: Mae’r tîm bellach yn defnyddio teleweinydd i sicrhau eu bod yn cadw at y sgript wrth ffilmio clipiau fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. 

 

Effaith 

Trwy roi atebion ymarferol wedi’u teilwra ar gyfer eu gofynion ar waith, mae RPL wedi atgyfnerthu eu cysylltiad gyda theuluoedd, gwella’r potensial ar gyfer codi arian, a gwella eu cynaliadwyedd hirdymor.

Derbyn cymorth fel hyn 

Os mae eich sefydliad yn chwilio am gymorth tebyg, mae Newid yn cynnig gwasanaeth mentora am ddim i’ch helpu i gyflawni trawsnewidiad digidol. Dysgwch fwy am sut y gallwn eich cynorthwyo ar eich taith ddigidol. 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu