Sut mae Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu wedi defnyddio Tripetto i rymuso eu haelodau ac i wneud y broses gofrestru yn haws

Merch ifanc gydag anabledd dysgu yn gwenu'n defnyddio gliniadur
Llun gan Cliff Booth
Drwy ddefnyddio Tripetto a dull Cynllunio Gwasanaeth, mae Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu (CC-AD) wedi troi proses heriol yn un sy’n grymuso eu haelodau.

Mae CC-AD yn gwneud gwaith arbennig yn hyrwyddo hawliau pobl sydd ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.  Drwy ymaelodi, mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi eu teilwra ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd, yn ogystal â derbyn cymorth i eirioli drostynt eu hunain, a chael canllawiau ar archwiliadau iechyd mewn fformat hawdd ei ddeall. 

Ond, roedd proses ymaelodi CC-AD yn anodd gan fod y ffurflen ymaelodi yn rhy gymhleth o lawer i'w haelodau allu ei llenwi eu hunain.  Mae’r astudiaeth achos yma yn edrych ar y ffordd yr aeth CC-AD ati i ddatblygu ffurflen gofrestru hygyrch mewn fformat hawdd ei ddeall drwy ddefnyddio Tripetto ac adnodd Cynllunio Gwasanaeth ar gwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol.

Y broblem 

Un o ganfyddiadau'r ymchwil gyda defnyddwyr oedd bod aelodau ag anableddau dysgu yn ei chael hi’n anodd llenwi'r ffurflenni aelodaeth ar eu pen eu hunain, ac mae annibyniaeth yn un o brif werthoedd y sefydliad.

Arweiniodd hyn at ddwy broblem fawr:  

  1. Heriau Profiad Defnyddwyr: Mae angen cefnogaeth sylweddol ar aelodau ag anableddau dysgu i lenwi'r ffurflenni aelodaeth presennol hyd yn oed os ydyn nhw’n cael eu darparu fel copi papur mewn fformat hawdd ei ddeall. Gall hyn wneud i’r aelodau deimlo’n llai annibynnol.  
  2. Baich amser ar staff: Roedd rhaid i staff dreulio mwy o amser yn llenwi ffurflenni aelodaeth ar ran defnyddwyr ag anableddau dysgu.  

Felly penderfynodd CC-AD ganolbwyntio ar ganfod ffordd o ‘wneud yn siŵr fod pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn gallu cael gafael ar y ffurflen aelodaeth yn hawdd ac yn gallu ei llenwi hi eu hunain, os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.’

Sut y daeth adnoddau digidol i’r adwy i ddatrys hyn 

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn penderfynodd CC-AD symleiddio dyluniad eu ffurflen gan ddefnyddio Tripetto i greu fersiwn newydd mewn fformat hawdd ei ddeall.

Y rhesymau dros ddewis Tripetto

Roedd CC-AD wedi defnyddio Tripetto i greu ffurflen oedd yn dilyn model syml a rhesymegol. Mae model rhesymegol yn ffordd o greu ffurflen ar ffurf canghennau; mae pob cwestiwn yn berthnasol i'r defnyddiwr ac yn dilyn eu hateb i’r cwestiwn blaenorol.  Roedd Tripetto yn ddewis da gan fod modd ychwanegu lluniau at gwestiynau arno, sy’n ddefnyddiol iawn wrth greu ffurflen mewn fformat Hawdd ei Ddeall.

Gan ddefnyddio Tripetto, creodd Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu brototeip o’r ffurflen aelodaeth newydd oedd yn haws i’w defnyddio, yn adlewyrchu eu brand, ac yn dilyn egwyddorion hawdd ei ddeall.  Mae Tripetto yn adnodd rhad ac am ddim, ac felly roedd yn ddewis perffaith i greu prototeip. Mae modd talu i ddefnyddio fersiwn wedi ei uwchraddio hefyd. Mae’r cynllun yn rhad ac am ddim ac yn darparu'r holl wahanol fathau o gwestiynau, faint a fynnoch o resymeg mewn ffurflen, a nodwedd unigryw ‘wynebau ffurflen’ Tripetto. Os hoffech chi ddysgu mwy am Tripetto  rydym ni wedi creu canllaw ar sut i’w ddefnyddio.

 

Profi ac ailadrodd 

Aeth y tîm â’r prototeip at ddefnyddwyr a staff a chael ymateb cadarnhaol dros ben. Canfyddiad y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws a gynhaliwyd oedd bod y prototeip yn mynd i'r afael ag angen gwirioneddol o fewn y sefydliad.  

 Gan edrych at y dyfodol mae’r tîm yn awyddus iawn i brofi’r ffurflen newydd gyda darllenydd sgrin, yn ogystal ag ymchwilio i ganfod sut y gallant awtomeiddio'r broses gan ddefnyddio Power Automate neu Zapier i gysylltu’r ffurflen gyda’u rhestr aelodaeth. I gael eich ysbrydoli, darllenwch am y ganolfan gymunedol a ddefnyddiodd Zapier i gysylltu eu tudalen ddigwyddiadau gyda’i rhestr bostio. 

Drwy ddefnyddio Tripetto a dull Cynllunio Gwasanaeth mae CC-AD wedi troi proses heriol yn un sy’n grymuso eu haelodau.  

 

Ymuno â’r cwrs nesaf

Dywedodd y tîm eu bod nhw’n “hoffi bod arweinwyr y cwrs mor wybodus.  Drwy fod yn ymwybodol o'r holl adnoddau arbennig sydd ar gael i’w defnyddio gallwn ni wneud gwahaniaeth enfawr i’n sefydliad yn y dyfodol.” 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n cyrsiau yn y dyfodol rhowch eich enw ar y rhestr aros. 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu