Sut gall Tripetto symleiddio proses casglu data eich sefydliad

Dynes yn llenwi ffurflen ar ei ffôn
Llun gan ODISSEI / Unsplash
Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar yr hyn sy’n gwneud Tripetto mor ddefnyddiol, a sut gallwch chi ei ymgorffori yng ngwaith eich sefydliad.

Cyflwyniad 

I lawer o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru, gall storio ffeiliau fod yn boen. Yn rhy aml, gall ffeiliau fynd ar goll, mae angen mynd ar drywydd ffurflenni cofrestru, a gall y gwaith o storio fynd yn ormod.    

Os yw hyn yn rhywbeth y mae eich sefydliad chi’n cael trafferth ag ef, gall ffurflenni digidol fod yn help mawr. Gall ffurflenni digidol fod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o bethau, gan gynnwys cofrestru, dosbarthiadau, datganiadau o ddiddordeb mewn gweminarau, ac ati. 

Fodd bynnag, o’r holl adnoddau gwahanol sydd ar gael, mae Tripetto yn sefyll allan fel adnodd creu ffurflenni sy’n greadigol ac yn hawdd iawn ei ddefnyddio.   

 

Beth yw Tripetto? 

Adnodd sy’n creu ffurflenni amlbwrpas yw Tripetto, sy’n eich galluogi i greu cwisiau, arolygon neu ffurflenni rhyngweithiol. 

Yn wahanol i adnoddau eraill o'r fath, mae Tripetto yn defnyddio cadwyni rhesymeg. Yn hytrach na chreu ffurflen syml, gallwch chi ddewis cyfres o lwybrau yn dibynnu ar sut mae defnyddwyr yn ateb eich cwestiynau.  

Mae’n debyg iawn i lyfr ‘Dewis dy antur dy hun’, gan fod pob ateb rydych chi’n ddewis yn eich tywys i lawr llwybr gwahanol sydd wedi’i deilwra.  

Drwy ddefnyddio'r nodwedd ‘llusgo a gollwng’, yn ogystal â’r gallu i ychwanegu fideos a lluniau, mae Tripetto yn ffordd unigryw a syml o sicrhau bod ffurflenni eich sefydliad yn sefyll allan.  

 

Mantais 1: Coed Rhesymeg 

Fel y soniwyd eisoes, gan fod Tripetto yn defnyddio rhesymeg, mae’n adnodd sy’n wahanol i lawer o adnoddau eraill. Gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn ‘goed rhesymeg’, gallwch chi greu ffurflen gymhleth yn hawdd ac mewn cyfnod byr o amser.  

Dywedwch, er enghraifft, fod eich sefydliad am recriwtio aelodau newydd a lansio rhwydwaith gwirfoddoli. Er y byddai’n hawdd creu dwy ffurflen ar-lein (un ar gyfer darpar aelodau, ac un ar gyfer gwirfoddolwyr), gallwch chi, drwy Tripetto, symleiddio'r broses hon drwy greu un ffurflen drawiadol yn unig.  

Llun yn dangos enghraifft o goeden resymeg yn Tripetto, gyda changhennau gwahanol o gwestiynau yn dibynnu a yw'r defnyddiwr wedi ateb ‘Ie’ neu ‘Na’)
Enghraifft o goeden resymeg, gyda changhennau gwahanol o gwestiynau yn dibynnu a yw'r defnyddiwr wedi ateb ‘Ie’ neu ‘Na’.

I greu coeden resymeg ar gyfer cwestiwn ‘Ie’ neu ‘Na’, er enghraifft, cliciwch ar y tri dot wrth ymyl eich cwestiwn. O hynny, gallwch chi fynd i ‘Quick Add’ ac ychwanegu dwy gangen wahanol (un ar gyfer ‘Ie’, ac un ar gyfer ‘Na’). 

Llun yn dangos enghraifft o swyddogaeth 'Quick Add’ yn Tripetto, symleiddio'r broses o gael cwestiynau gwahanol, yn dibynnu ar ba ateb rydych chi'n ei roi cynt
Enghraifft o swyddogaeth 'Quick Add’ yn Tripetto, symleiddio'r broses o gael cwestiynau gwahanol, yn dibynnu ar ba ateb rydych chi'n ei roi cynt.

O hyn, mae gennych chi ddwy gangen wahanol, sy’n golygu y gallwch chi ofyn cwestiynau gwahanol yn dibynnu ar ba ateb a roddodd eich defnyddiwr gynt.  

 

Mantais 2:  Hawdd iawn addasu ffurflenni 

 

Llun yn dangos enghraifft o fideo, maint ffont a chefndir personol mewn ffurflen Tripetto
Enghraifft o fideo, maint ffont a chefndir personol mewn ffurflen Tripetto.

Mae Tripetto hefyd yn adnodd defnyddiol i unrhyw sefydliad trydydd sector sydd eisiau creu ffurflenni diddorol, ac wedi’u teilwra. Drwy ddefnyddio’r nodweddion y gellir eu haddasu, fel cefndiroedd, maint ffontiau a lliwiau personol, gallwch chi sicrhau bod eich ffurflenni’n rhai unigryw dros ben. 

Drwy ddefnyddio meysydd personol (fel lluniau neu nodwedd bleidleisio), gall eich sefydliad trydydd sector amrywio’r data mae’n ei gasglu.  

Llun yn dangos y gwahanol fathau o gwestiynau sydd ar gael yn Tripetto. Drwy glicio 'Edit, a dewis y math o gwestiwn rydych chi’n ei ofyn, gall y defnyddiwr ateb eich arolwg mewn wahanol ffyrdd; er enghraifft atebion amlddewis, rhoi sgôr, dewis o luniau, a llawer mwy
Drwy glicio 'Edit, a dewis y math o gwestiwn rydych chi’n ei ofyn, gall y defnyddiwr ateb eich arolwg mewn wahanol ffyrdd; er enghraifft atebion amlddewis, rhoi sgôr, dewis o luniau, a llawer mwy.

Yn hytrach na gofyn am atebion ie/na, gallwch chi gasglu data wedi’i deilwra gan eich cleientiaid, defnyddwyr a chydweithwyr fel ei gilydd.  

Yn yr un modd, oherwydd y gallu i lwytho fideos a lluniau i fyny, gallwch chi ychwanegu lefel ychwanegol o ymgysylltiad i’ch ffurflen, gan drawsnewid yr hyn a allai fel arall fod yn broses ddiflas iawn i'ch defnyddwyr.  

 

Mantais 3: Am ddim i bob defnyddiwr 

Mantais allweddol arall o ddefnyddio Tripetto yw ei fod yn wasanaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim i raddau helaeth.   

Er bod posibl uwchraddio Tripetto am $99, mae’r cynllun am ddim yn ddigon cynhwysfawr fel y gallai sefydliadau mawr yn y trydydd sector ddefnyddio'r adnodd i greu cymaint o ffurflenni ag y mynnant. 

Fel rhan o’r cynllun am ddim, dyma rai o’r nodweddion rydych chi’n eu cael: 

  • Creu faint a fynnoch o ffurflenni 
  • Defnyddio faint a fynnoch o resymeg 
  • Pob nodwedd cynllun 
  • Blociau blaengar i’w defnyddio wrth greu ffurflen y gellir ei haddasu 
  • Blociau i gyfeirio defnyddiwr eich arolwg at weithred benodol 

 

Gyda’r cynllun rhad ac am ddim hwn, gall eich sefydliad trydydd sector arbed arian a pharhau i allu defnyddio'r rhan fwyaf o nodweddion cynhwysfawr sydd gan unrhyw adnodd creu ffurflenni i’w cynnig.  

 

Casgliad 

Yn y pen draw, gallai Tripetto drawsnewid y ffurflenni neu'r arolygon mae eich sefydliad yn eu creu. Yn hytrach na ffurflenni papur diflas, gallwch chi, drwy Tripetto, greu rhywbeth diddorol, manwl a phersonol iawn.  

I gael rhagor o wybodaeth am Tripetto, ewch i’w gwefan.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu