Sut defnyddiodd Brook y platfform Mural i ddylunio adnodd atal cenhedlu cynhwysol

Dwylo yn gafael mewn condom wedi'i lapio a phecyn o'r bilsen atal cenhedlu

Nod Brook, arweinydd mewn iechyd rhywiol ers dros 60 mlynedd, oedd datblygu adnodd atal cenhedlu cynhwysol i fynd i'r afael â gwybodaeth anghywir a thywys defnyddwyr drwy eu hopsiynau atal cenhedlu. 

Rhan allweddol o’r broses hon oedd sicrhau bod yr adnodd yn hawdd i ddefnyddwyr ei ddefnyddio, yn gywir, ac yn cyd-fynd â sut mae pobl yn chwilio am wybodaeth. I gyflawni hyn, mabwysiadodd Brook ddull sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr a gwnaethon nhw ddefnyddio Mural i fapio teithiau’r defnyddwyr, mireinio rhesymeg yr adnodd, a hwyluso cydweithrediad gyda’u defnyddwyr. 

 

Beth oedd y broblem?

Nododd y tîm ddwy broblem allweddol:

Adnoddau Digidol Wedi Dyddio: Roedd gwefan wreiddiol Brook yn cynnwys adnodd atal cenhedlu hen ac nad oedd wedi’i ddiweddaru ers blynyddoedd. Er ei hoedran, dangosodd ddadansoddiadau ymgysylltiad parhaus â defnyddwyr, gan amlygu galw parhaus am wybodaeth ddibynadwy. 

Gwybodaeth Anghywir yn Dod i’r Amlwg: Yn sgil platfformau cyfryngau cymdeithasol, fe ddaeth cynnydd mewn gwybodaeth anghywir sy’n ymwneud ag atal cenhedlu, gan dargedu yn bennaf prif gynulleidfa Brook: pobl ifanc. Yn aml, hyrwyddodd y wybodaeth anghywir hon ddulliau atal cenhedlu gwallus a chynyddu’r risg am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd dieisiau. 

 

Sut y gwnaethon nhw ddefnyddio digidol i’w ddatrys

Defnyddio Mural i Fapio Taith y Defnyddiwr 

Cyn i unrhyw waith ddatblygu ddechrau, roedd angen i Brook sicrhau bod ffrwd yr adnodd yn gwneud synnwyr i’w ddefnyddwyr. Defnyddiodd y tîm blatfform Mural, adnodd bwrdd gwyn digidol, i fapio rhesymeg yr adnodd.

Plotiwyd pob taith bosibl y defnyddiwr yn ofalus. Trwy wneud y daith yn un weledol, gallai’r tîm ganfod unrhyw lwybrau dryslyd neu gamau diangen. Cynrychiolodd nodiadau gludiog melyn y gwahanol gwestiynau y byddai’r defnyddwyr yn dod ar eu traws, wrth i nodiadau gludiog coch ddangos negeseuon rhybudd neu bwyntiau gwneud penderfyniadau allweddol.

Cydweithredu a Phrofi 

Gweithiodd y tîm Brook ochr yn ochr â chlinigwyr, partneriaid technegol, a phobl ifanc o’u Fforwm Cyfranogi i fireinio’r adnodd. Galluogodd nodweddion cydweithredol Mural i wahanol rhanddeiliaid ddarparu adborth ar nodweddion a llwybrau gwahanol yr adnodd. 

Profodd y tîm y strwythur yn Mural, yn ogystal â’i redeg dro ar ôl tro. Rhoddodd hyn ffordd fras ac effeithiol o ran cost o brofi a rhedeg yr adnodd cyn symud at brototeipio manwl.

 

O Mural i Adnodd Byw 

Roedd y cynnyrch terfynol yn atebol ac yn adnodd sydd ar ddyfeisiau symudol yn gyntaf, gan gynnig arweiniad personol ar atal cenhedlu wrth chwalu gwybodaeth anghywir a hynny drwy ddefnyddio negeseuon naid. 

0:00
/0:47

Effaith 

Mae’r adnodd newydd wedi derbyn adborth cadarnhaol dros ben, gyda defnyddwyr yn canmol ei eglurder, hygyrchedd, a dyluniad cynhwysol, gan gynnwys negeseuon naid sy’n chwalu mythau, yn ogystal ag iaith nad yw’n benodol i rywedd. 

Dyma rai o’r adborth: 

“[Rwyf i] newydd gymryd golwg ar hwn, ac er fy mod â gwybodaeth gyffredinol dda, mae’n ddefnyddiol iawn! Mor hawdd ei ddefnyddio a gwybodaeth wych, ddefnyddiol dros ben!” 
“Mae’r flwyddyn hon wedi dangos pa mor bwysig all deall opsiynau fod!! Mae gweld hwn yn fy ngwneud ychydig yn emosiynol gan y bydd yn addysgu a grymuso eraill”  

Trwy flaenoriaethu anghenion defnyddwyr ac adnoddau digidol o’r dechrau cyntaf, mae Brook wedi creu adnodd sy’n effeithiol ac yn rymusol i bobl ifanc.

Os hoffech ddysgu rhagor am fyrddau gwyn ar-lein, rydym wedi creu adnodd ynglŷn â’r rhai gorau i’w defnyddio.  

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu