Sut all sefydliadau trydydd sector gasglu a defnyddio data effaith?
Rydych yn arbennig
Mae sefydliadau trydydd sector yn rhai arbennig. Yn wahanol i fusnesau, nid ydynt yn bodoli i gynhyrchu elw, ac yn wahanol i’r sector cyhoeddus nid ydynt yn bodoli am fod y gyfraith yn mynnu hynny. Mae sefydliadau trydydd sector yn bodoli i fynd i’r afael a phroblemau mewn cymdeithas, ac i wneud newid positif, ystyrlon a pharhaus i fywydau pobl, a dyna beth yw effaith.
Dyna pam mae mor bwysig bod sefydliadau trydydd sector yn gallu mesur eu heffaith.
Yn yr erthygl hon, rydym yn egluro sut y gallwch ddewis pa ddata effaith i’w casglu, sut i’w casglu a sut i’w defnyddio i wella eich gwasanaethau. Byddwn yn defnyddio sefydliad dychmygol i egluro’r broses.
Damcaniaeth Newid
Wrth feddwl am ddata effaith mae’n werth meddwl am Ddamcaniaeth Newid. Nid yw’r erthygl hon yn trafod sut i ddatblygu Damcaniaeth Newid. Mi allwch ddarllen rhagor am hynny yn yr erthygl hon gan NPC.
Dyma sut yr ydym ni, yn Data Orchard, yn meddwl am Ddamcaniaeth Newid.
Gweithgareddau yw’r camau sy’n arwain at y newidiadau neu’r effaith barhaol y mae sefydliad am eu gweld. Mae canlyniadau’n newidiadau mewn agweddau, ymddygiadau, sgiliau neu wybodaeth, rhai y gall sefydliad eu priodoli i’w hymyriadau. Effaith yw’r newid tymor hir y mae sefydliad yn derbyn i gyfrannu ati.
Gwahanu Gweithgareddau oddi wrth Ganlyniadau ac Effaith yw’r 'llinell briodoli’.
I ddangos hyn, rydym am ddefnyddio enghraifft ddychmygol o grŵp cymunedol i ddangos sut i gasglu a defnyddio data effaith, gan ddefnyddio damcaniaeth newid.
Cyflwyno Penybryn
Mae Grŵp Cymunedol Penybryn yn rhedeg rhaglen sydd wedi’i lleoli yn eu canolfan gymunedol, Mae’r rhaglen yn gweithio â phobl o’r ardal leol sydd wedi bod yn ddi-waith am y tymor hir. Maent yn dod i’r ganolfan gymunedol ar gyfer gweithdai, maent yn mynd ar leoliadau gwaith â chyflogwyr lleol a grwpiau cymunedol, ac maent yn elwa ar gymorth a hyfforddiant gan wirfoddolwyr sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer.
Allbynnau a gweithgareddau
Mae Grŵp Cymunedol Penbryn yn dda am fesur ei weithgareddau.
Mae eu cofnodion yn dangos faint o bobl sy’n cychwyn ar y rhaglen bob mis a faint o’u plith sy’n cwblhau’r rhaglen.
Mae’r nifer sy’n cychwyn bob mis yn amrywio rhwng 10 a 23.
Mae cyfartaledd y rhai sy’n cwblhau’r cwrs yn amrywio gyda chyfartaledd cyffredinol o 83%.
Maent hefyd yn cofnodi faint o weithdai, lleoliadau gwaith a sesiynau hyfforddi mae pob cyfranogwr yn eu mynychu.
Gall rheolwr y rhaglen ddefnyddio’r data hyn i fonitro’r rhaglen ac i wneud yn siŵr eu bod yn canfod problemau’n gyflym, ac i gadw cyfranogwyr ar y trywydd cywir.
Nid oes yr un o’r rhain yn mesur yr effaith mae’r rhaglen yn ei gael ond mae’n hytrach yn mesur y gweithgareddau.
I fesur y newid a brofir gan bobl, neu’r canlyniadau tymor byr, mae’r prosiect yn gofyn i bawb sgorio eu hyder a’u llesiant meddyliol ar ddechrau’r rhaglen ac wedyn ar ei diwedd. Mae hynny’n golygu y gallant ddangos bod pobl, ar gyfartaledd, yn gadael y rhaglen yn fwy hunan hyderus a gyda lefelau uwch o lesiant meddyliol.
Gwelwyd fod yr hyder cyfartalog yn codi o 3.7 ar ddechrau’r rhaglen i 6.1 ar ddiwedd y rhaglen a bod llesiant cyfartalog yn codi o 4.1 ar ddechrau’r rhaglen i 7.3 ar ddiwedd y rhaglen.
Effaith
Mae Grŵp Cymunedol Penybryn yn gwybod pa fath o ganlyniadau ac effaith maent yn gobeithio eu cael yn sgil y rhaglen hon. Maent am weld pobl yn symud i waith sefydlog, yn ennill mwy o arian ac yn dod yn fyw cydnerth yn ariannol.
Mae’n anodd mesur canlyniadau ac effaith tymor canolig a hir ond mae Penybryn yn mesur rhai ohonynt. Chwe mis a deuddeng mis ar ôl i rywun gwblhau rhaglen mae gwirfoddolwr yn cysylltu â hwy ac yn gofyn iddynt a ydynt mewn gwaith, am ba hyd maent wedi bod mewn gwaith, ac am sawl awr yr wythnos maent yn gweithio.
Ar sail hyn gall y grŵp cymunedol weld bod tua 45% o’r bobl sy’n cwblhau’r rhaglen yn gallu cynnal o leiaf 16 awr o gyflogaeth mewn chwe mis yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl iddynt gwblhau’r rhaglen. Mae hynny’n eithaf da o’i gymharu â phrif raglenni’r DWP.
Ni ellir priodoli hyn yn gyfan gwbl i raglen Penybryn. Mae’n ymwneud ag amgylchiadau’r unigolyn, efallai eu bod wedi cael help o rywle arall, efallai eu bod wedi cael swydd sy’n eu siwtio’n well na swyddi eraill yn y gorffennol, ac efallai bod mwy o swyddi ar gael yn yr ardal ar y pryd.
Fodd bynnag, mae’n arwydd da bod rhaglen Penybryn yn helpu a’i bod yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd ganddynt.
Un o’r pethau mwyaf pwerus am ddata effaith yw’r gallu mae’n ei roi i sefydliadau nid-er-elw i weld beth sy’n gweithio ac sydd ddim yn gweithio. Pan fydd Penybryn yn dechrau edrych yn fwy manwl ar y data effaith hyn maent yn gweld rhywbeth diddorol. Er bod 45% o’r bobl sy’n cwblhau’r rhaglen yn mynd ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy, mae gwahaniaeth yn yr effaith ar gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd.
Mae 59% o’r cyfranogwyr gwrywaidd sy’n cwblhau’r rhaglen yn mynd ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy ond dim ond 26% o’r cyfranogwyr benywaidd sy’n cwblhau’r rhaglen sy’n mynd ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy. A hynny er bod cyfraddau tebyg o ddynion a menywod yn cwblhau’r rhaglen.
Drwy hyn, maent yn dod i’r casgliad nad yw’r rhaglen yn cael yr effaith ar fenywod yr oedd y grŵp wedi’i obeithio.
Mae Penybryn yn cynnal grwpiau ffocws gyda chyfranogwyr benywaidd blaenorol i ddeall pam ei bod wedi cael llai o effaith arnynt hwy. Maent yn dod i’r casgliad nad oedd llawer o’r cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith a oedd ar gael iddynt mewn meysydd yr oeddent am weithio ynddynt a bod menywod ar y rhaglen yn llawer mwy tebygol na dynion o nodi cyfrifoldebau gofal fel rhwystr sylweddol rhag cael gwaith.
O ganlyniad, maent yn datblygu damcaniaethau i roi prawf arnynt yn y fersiynau o’r rhaglen a gynigir yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Darparu mwy o dechnegau i geisio cydbwyso cyfrifoldebau gofal a chyflogaeth o fewn y rhaglen
- Darparu mynediad at ofal plant a chymorth gofal arall ar ôl cwblhau’r rhaglen
- Ehangu cwmpas y lleoliadau gwaith i gynnwys mathau o waith a nodwyd yn y grwpiau ffocws.
Byddant yn gallu gweld a fydd y newidiadau hyn yn gwella eu heffaith ond bydd yn rhaid iddynt aros nes bydd nifer o bobl wedi bod drwy’r rhaglen ac wedyn ar ôl i 12 mis fynd heibio.
Effeithiau tymor hir
Mae Grŵp Cymunedol Penybryn yn disgwyl y bydd y rhaglen yn arwain at fuddiannau tymor hir.
Yn benodol, wrth i fwy o bobl aros mewn cyflogaeth maent yn disgwyl y bydd ganddynt fwy o annibyniaeth ariannol. Bydd hyn yn cymryd mwy o amser hyd nes byddant yn gallu gweld y newid hwn gan y bydd yn rhaid i bobl fod mewn gwaith am gyfnod ac efallai cael dyrchafiad yn eu swyddi cyn y byddant yn profi mwy o annibyniaeth ariannol.
Os bydd hynny’n digwydd, mae Grŵp Cymunedol Penybryn yn disgwyl y bydd y cyfranogwyr a’u teuluoedd yn dod yn fwy cydnerth yn ariannol. Efallai y gallant osgoi mynd i ddyled a hyd yn oed rhoi rhywfaint o gynilion o’r neilltu.
Mae’n anodd mesur yr effeithiau hyn gan eu bod yn digwydd ar ôl i gymaint o amser fynd heibio. Hyd yn oed os bydd Penybryn yn gallu mesur yr effeithiau bydd yn amhosibl ceisio profi mai eu rhaglen hwy a wnaeth y gwahaniaeth.
Ond mi all ac mi ddylai Grŵp Cymunedol Penybryn fesur yr effeithiau hyn. Maent yn gweithio â’r undeb credyd lleol, tîm budd-daliadau’r cyngor a’r gymdeithas tai i ddeall sut mae cydnerthedd ariannol yn eu hardal yn newid.
Maent yn defnyddio’r data i ddeall sut y bydd angen i’w rhaglen bresennol esblygu. Gallant ddefnyddio’r data hefyd i ddylunio rhaglenni newydd sy’n diwallu anghenion pobl leol.
Yr hyn mae hyn yn ei olygu i’ch sefydliad chi
Mae mesur effaith yn anos na mesur mewnbynnau ac allbynnau ond dyma’r unig ffordd o wybod a yw eich gwasanaeth yn cael yr effaith a fwriadwyd.
Hyd yn oed os yw eich gwasanaeth yn cyflawni’r buddiannau a fwriadwyd gennych efallai na fydd yn cynnig y buddiannau hyn i’r un graddau i holl aelodau eich cymuned. Gall ystyried sut mae gwahanol bobl yn profi effeithiau eich gwaith fod yn ffordd ddefnyddiol o wella eich gwasanaeth.
Er mwyn mesur eich effaith mae Damcaniaeth Newid yn broses ddefnyddiol a gwerth chweil sy’n nodi pa effeithiau yr ydych yn disgwyl eu cael o ganlyniad i’ch gweithgarwch, ac i gyfleu’r newid rydych yn ceisio ei wneud i fywydau pobl.
Crynhoi
Mae mesur effaith yn helpu mudiadau gwirfoddol i ddeall yr effaith bositif mae eu gwasanaethau’n ei gael. Mae hefyd yn helpu i ddangos y pethau nad ydynt yn gweithio’n ôl y disgwyl. Mae’n ffordd bwysig i wella gwasanaethau i’ch defnyddwyr gwasanaeth.
Er mwyn mesur eich effaith rhaid i chi gael damcaniaeth newid a bydd angen i chi neilltuo adnoddau i gasglu data effaith. Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig o fudd i’ch sefydliad chi ond bydd eich defnyddwyr gwasanaeth yn elwa hefyd.
Darllen pellach ac adnoddau
- Astudiaethau achos o fesur effaith mewn mudiadau gwirfoddol gan Data Orchard
- Roedd Mesur effaith mewn mentrau nid-er-elw yn destun mewn Data Folk Club diweddar, dyma grynodeb
- Dangos effaith gadarnhaol eich sefydliad gan WCVA
- Mae Adroddiad Cyflwr y Sector Data Orchard yn cynnwys data diddorol ar sut y mae sefydliadau ag aeddfedrwydd data uwch yn cael mwy o effaith.
- Mae Data Cymru yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi ar sawl agwedd ar gasglu a dadansoddi data
- Mae gan NPC ystod o adnoddau rhagorol ar fesur effaith gan gynnwys Starting to measure your impact
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu