Sesiynau hyfforddi digidol am ddim yn ystod mis Mawrth
Sesiynau hyfforddi am ddim i fudiadau trydydd sector yng Nghymru ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar bynciau digidol gwahanol ym mis Mawrth eleni. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i helpu mudiadau trydydd sector i ddefnyddio digidol i arbed amser, a’u cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau.
Mae’r sesiynau yn cael eu darparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.
Bydd y sesiynau yn edrych ar offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa. Mae’r sesiynau hyfforddiant ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Gweithio'n fwy effeithlon gydag adnoddau digidol
4 Mawrth 2025 | 10am – 1pm | Ar-lein | Saesneg
5 Mawrth 2025 | 10am – 1pm | Ar-lein | Cymraeg
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar amrywiaeth o adnoddau digidol sydd wedi’u dylunio i symleiddio prosesau gwaith a’ch helpu chi i weithio’n fwy effeithlon. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut mae’r adnoddau hyn yn gweithio ac yn rhannu awgrymiadau a syniadau ar sut i’w hintegreiddio yn eich gwaith bob dydd er mwyn arbed amser i chi.
Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:
- A oes ffordd gyflymach o wneud tasgau gweinyddol?
- Sut gall fy nhîm gwblhau tasgau’n well gyda’i gilydd?
- A oes ffyrdd y gallwn ni awtomeiddio tasgau arferol?
Adnoddau i wella gwaith tîm digidol
18 Mawrth 2025 |10am – 1pm | Ar-lein | Saesneg
19 Mawrth 2025 |10am – 1pm | Ar-lein | Cymraeg
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut gallwch ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi gwaith tîm yn eich mudiad. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut gall yr adnoddau hyn wella cyfathrebu a chydweithio, gan alluogi timau i gadw mewn cysylltiad a gweithio’n effeithlon mewn gweithleoedd hybrid.
Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:
- Sut gallwn ni gyfathrebu’n well yn fewnol?
- Pa adnoddau all fy helpu i a’m cydweithwyr i weithio ar brosiectau gyda’n gilydd?
- Sut rydym yn cydweithio fel tîm hybrid/o bell?
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu