Sesiynau hyfforddi am ddim gyda Data Cymru yn ystod mis Chwefror a Mawrth

Sesiynau hyfforddi am ddim i fudiadau trydydd sector yng Nghymru ym mis Chwefror a mis Mawrth.

 Mae grŵp o bobl ar sesiwn hyfforddi yn edrych ar Siartiau Radar a gyflwynir ar sgrin fawr.

Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar bynciau data gwahanol ym misoedd Chwefror a Mawrth eleni.

Mae’r sesiynau hyfforddiant ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a byddant yn cael eu darparu gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.

Mae’r sesiynau yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac maent wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am gasglu neu ddadansoddi data yn ofynnol.

Cyflwyniad i ddylunio a chynnal arolygon

Dydd Iau 20 Chwefror 2025 | 10am – 12:30pm | Ar-lein |Saesneg

Dydd Iau 20 Chwefror 2025 | 2pm - 3:30pm | Ar-lein |Cymraeg

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • dylunio arolygon
  • y technegau samplo mwyaf cyffredin
  • sut i lunio cwestiynau arolwg
  • sut i beilota a chynnal arolwg
  • sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.

Cyfleu eich pwynt: Cyflwyniad i gyflwyno data yn effeithiol

Dydd Iau 20 Mawrth 2025 |10am – 12:30pm | Ar-lein | Cymraeg

Dydd Iau 20 Mawrth 2025 |1pm – 3:30pm | Ar-lein | Saesneg

Yn ystod y cwrs hwn byddwn yn cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno data’n effeithiol – mewn tablau, siartiau, mapiau neu destun. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i gyflwyno’ch data chi’n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa’n deall y negeseuon arfaethedig yn gyflym ac yn rhwydd.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • yr egwyddorion sy’n sail i gyflwyniad data da
  • y dulliau mwyaf cyffredin o gyflwyno data – y da a’r drwg
  • sut mae cyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd i greu’r effaith fwyaf.

 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu