O Ragdybiaeth i Fewnwelediadau: Ailfeddwl Cymorth i Rieni

Mam yn siarad ar y ffôn, yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Wrth ei hochr mae ei mab sydd yn chwarae ar dabled.
Llun gan Freepik
Yn y blog gwadd yma, mae aelod o dîm Kidscape yn rhannu sut mae cwrs Cynllunio Gwasanaeth Digidol Newid wedi eu helpu i ailfeddwl eu hymagwedd, gan arwain at ddatrysiad syml a fforddiadwy sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Darganfod mod i'n anghywir ar ôl rhagdybio am rieni plant sy'n cael eu bwlio.

Mae'n hawdd rhagdybio ar ôl gweithio i'r un elusen ers tro. Rydych chi wedi ysgrifennu cymaint o bostiadau cyfryngau cymdeithasol fel eich bod chi'n meddwl gallech chi ragweld yr hyn mae'r cynulleidfaoedd eisiau. Ac felly, wrth i mi weithio ar Linell Cyngor Rhieni Kidscape, dechreuais feddwl mod i'n gwybod sut i wella'r gwasanaeth. Roedd y gwasanaeth yn agored ychydig oriau yn y dydd, ac roedd angen oriau hirach. Elusen fach yw Kidscape, felly nid oedd hyn yn beth hawdd.

Wrth lwc, roedd y cyfnod yma'n cyd-fynd â'm mhresenoldeb ar gwrs Cynllunio Gwasanaeth Digidol Newid. Gofynnwyd i mi feddwl am beth fyddai fy 'sgrialfwrdd': sef y ffordd hawsaf a symlaf i fynd o A i B, a gwella ein Llinell Cyngor ychydig. Yna cefais fy nghyflwyno i'r model Diemwnt Dwbl: ffordd i gynllunio gwasanaethau sydd wedi chwyldroi fy null o weithio, ac wedi gosod ein defnyddwyr wrth galon popeth.

Yn hytrach nag dychmygu'r pethau roedd ein rhieni eisiau, cysylltais â nhw i holi. Gwrandais ar eu hatebion a phlotio eu taith, o glywed bod eu plentyn yn cael ei fwlio i ofyn am ein cymorth. Roedd hyn yn caniatáu i mi weld rhwystredigaethau - ac felly yn clywed yr hyn oedd wir yn bwysig iddynt. Nid oedd angen i'r Llinell Gyngor fod yn agored drwy'r adeg. Roedd plant yn dod adref o'r ysgol yn anhapus ar ôl cael eu bwlio, ac roedd rhieni eisiau datrysiadau yn y cyfnod pwysig ar ôl yr ysgol. Roeddent angen gwybod beth i'w wneud cyn i'w plentyn ddychwelyd i'r ysgol y diwrnod canlynol.

Dros sawl wythnos, datblygwyd datrysiad 'sgrialfwrdd' gyda chymorth y tîm anhygoel yn ProMo Cymru. Roedd yr angerdd a'r egni dangoswyd ganddynt yn ddylanwad arnom, a dechreuais greu cyfres o fideos i rieni. Er nad oedd posib agor y Llinell Cyngor gyda'r nos, bellach mae gennym gyfres o fideos sydd yn helpu rhieni gyda phryderon cyffredin. Ac roedd gennym syniad o sut i'w harwain i'r fideo cywir mewn ffordd gyfeillgar, ddynol, gyda chymorth meddalwedd syml a Kat, ein Rheolwr Cefnogi Rhieni. Gorau oll, roedd y dull 'sgiralfwrdd' yn canolbwyntio ar ddatrysiadau rhad ac am ddim - felly nawr mae gennym wasanaeth sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr llawer mwy, sydd wir yn cyfarfod anghenion ein cleientiaid. Ac nid ydym wedi talu ceiniog amdano.

Dwi wir yn falch mod i wedi cymryd rhan yn y cwrs. Nid yn unig ydw i wedi darganfod datrysiad i'r Llinell Gyngor, ac wedi cyfarfod pobl hyfryd, ond dwi hefyd wedi newid fy ffordd o feddwl am y cynlluniad. Mae'r holl beth wedi'i werthu'n gyfan gwbl i mi.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu