Mentora

Llaw dynes yn pwyntio at nodyn post-it ar ddarn o bapur gyda'r teitl 'Sut gallwn ni...'
Llun gan ProMo Cymru

Fel partner yn y prosiect Newid, mae Cwmpas yn cynnig gwasanaeth mentora sy’n helpu sefydliadau trydydd sector i asesu a deall sut i ddefnyddio technoleg i gyflawni eu nodau.


Bydd ein Mentor yn archwilio arferion a galluoedd cyfredol, yn grymuso ac yn arwain sefydliadau i ddatblygu eu diwylliant digidol, dod o hyd i'r atebion cywir, a nodi ffyrdd ymarferol o'u gweithredu'n llwyddiannus.

Fanteision gweithio gyda Newid:

  • Cael help i gynllunio sut i gyflawni eich nodau mewn technoleg.
  • Cael cymorth personol sydd wedi'i deilwra i anghenion eich sefydliad.
  • Dysgu o brofiadau sefydliadau eraill sydd wedi defnyddio technoleg yn llwyddiannus.
  • Arbed amser ac arian drwy osgoi camgymeriadau costus.

Os ydych chi'n sefydliad trydydd sector yng Nghymru ac yn edrych i groesawu fwy o ddefnydd dechnoleg, mae Newid yma i'ch cynorthwyo.

Rydym yn wirioneddol werthfawrogi eich diddordeb yn ein mentora digidol, mae'n hadnoddau yn gyfyngedig, ac ar adegau, fydd rhaid cynnwys ymholiadau ar ein rhestr aros. Byddwn yn sicr o gysylltu â chi cyn gynted ag y bydd agoriad ar gael.
Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth yn fawr, ac edrychwn ymlaen at eich cynorthwyo.

Cysylltwch

Cysylltwch â Marc Davies marc.davies@cwmpas.coop a Samina Ali samina.ali@cwmpas.coop am ragor o wybodaeth.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu