Mae arolwg yr Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau ar agor tan 26 Ebrill
Mae arolwg yr Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau ar gael nawr.
Beth yw’r arolwg?
Nod yr arolwg yw nodi’r heriau parhaus o ran cyllido, arweinyddiaeth a sgiliau digidol. Yna, caiff ei ddefnyddio i greu adroddiad sy’n cael ei rannu’n eang a’i ddefnyddio i lywio cyllid a chefnogaeth i’r trydydd sector. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg, bydd elusennau a sefydliadau eraill yn y sector cymdeithasol yn helpu i greu darlun o dueddiadau ac anghenion cymorth y sector, yn ogystal â sut mae materion fel cynhwysiant yn effeithio ar aeddfedrwydd digidol
Allan o’r 504 o ymatebwyr y llynedd, dim ond 42 ohonynt oedd yn dod o Gymru. Gallwch lenwi’r ffurflen yn Gymraeg, yn ogystal â Saesneg. Rhannwch eich barn a helpu i gynrychioli Cymru ymhellach yn yr arolwg nesaf. Mae adroddiad 2023 ar gael ar eu gwefan.
Cymhellion
Diolch i gefnogaeth gan Catalyst a Zoe Amar Digital, mae gan 5 sefydliad cymwys y cyfle i ennill gwobr ariannol ddigyfyngiad o £500 yr un.
Sut rydyn ni’n defnyddio Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau
Mae hyfforddiant digidol yn cwmpasu ystod eang o bynciau posibl, ac un ffordd y gwnaethom ddefnyddio adroddiad 2023 oedd ein helpu i benderfynu ar rai meysydd i ganolbwyntio arnynt yn ystod ein sesiynau hyfforddi sgiliau digidol rhad ac am ddim. Roedd 88% o’r sefydliadau yng Nghymru a gymerodd ran yn arolwg 2023 wedi nodi Cyfryngau Cymdeithasol a gwella eu presenoldeb ar-lein fel un o’u blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. Felly, fe wnaethom ddarparu sesiwn hyfforddi yn seiliedig ar hynny.
Mae Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau yn gofyn am y rhwystrau y mae sefydliadau’n eu hwynebu wrth symud ymlaen yn ddigidol – mae cael gwell dealltwriaeth o’r heriau hyn yn allweddol er mwyn i ni roi problemau ar brawf a mynd i’r afael â nhw. Gorau po fwyaf y clywn am yr heriau hyn gan sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru! Dangosodd arolwg y llynedd fod systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, sgiliau staff a chyllid ar gyfer cysyniadau digidol yn feysydd a oedd yn achosi heriau i sefydliadau yng Nghymru. Roedd hyn yn dystiolaeth ychwanegol a oedd yn ein helpu i benderfynu pa feysydd yr oedd angen i ni roi sylw iddynt nesaf.
Roedd y raddfa datblygu digidol, a ddefnyddiwyd i asesu’r sefyllfa y mae sefydliad ynddi o ran ei daith mabwysiadu digidol, yn taro tant gyda ni fel partneriaeth. Mae’n adnodd gwych i bennu sefyllfa sefydliad ac asesu pa gymorth sy’n briodol iddo. Rydyn ni wrthi’n addasu ac yn datblygu’r syniad hwn i greu adnodd mwy.
Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ddydd Gwener 26 Ebrill. Ymunwch â’r sgwrs a llenwi’r arolwg isod
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu