Graddfa Mabwysiadu Technoleg Ddigidol Newid

Graddfa Mabwysiadu Technoleg Ddigidol Newid
Mae Newid yn edrych ymlaen at lansio ein graddfa mabwysiadu technoleg ddigidol! Bydd hyn yn eich helpu i ddeall lle mae eich sefydliad ar ei daith mabwysiadu technoleg ddigidol ar hyn o bryd, a pha gamau nesaf y gallwch eu cymryd i symud ymlaen i’r rhan nesaf. 

Cynnwys

  1. Cynnwys y teclyn
  2. Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn 
  3. Graffigyn mabwysiadu technoleg ddigidol 
  4. Teclyn hunanasesu 
  5. Chwilgar
  6. Dechrau Arni
  7. Datblygu
  8. Gwneud Cynnydd

Cynnwys y teclyn  

Mae ein teclyn yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gennym gydag 11 o arweinwyr yn y trydydd sector yng Nghymru a’r anghenion a gododd o’n sgyrsiau. Os hoffech chi ddysgu am ein canfyddiadau, gallwch ddarllen copi o’n hadroddiad.

Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn  

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei rannu’n ddwy ran:  

  1. Graffigyn mabwysiadu technoleg ddigidol  
  2. Teclyn hunanasesu mabwysiadu technoleg ddigidol 

Graffigyn mabwysiadu technoleg ddigidol  

Rydym wedi addasu'r raddfa yma o'r un defnyddiwyd yn yr Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau.

Beth ydy hyn? 

Mae’r graffigyn hwn yn declyn i asesu’n gyflym lle mae eich sefydliad arni ar ei daith mabwysiadu technoleg ddigidol. Mae categoreiddio eich sefydliad fel hyn yn ein galluogi i argymell y cymorth priodol sydd ei angen arnoch chi ar sail ble rydych chi arni ar eich taith ddigidol ar hyn o bryd. Dim ots ble rydych chi arni ar eich taith, os ydych chi’n chwilfrydig neu’n gwneud cynnydd, mae Newid yma i ddarparu cymorth am ddim ar ddefnyddio technoleg ddigidol er mwyn i chi allu canolbwyntio ar gefnogi eich defnyddwyr.  

Sut mae ei defnyddio?  

  1. Edrychwch ar y graffigyn a darllenwch y pedwar disgrifiad  
  2. Dewiswch pa ran sy’n cyd-fynd fwyaf â ble mae eich sefydliad arni ar ei daith ddigidol  

Pan fyddwch chi’n cael cymorth gennym ni, gallwch ddweud wrthym pa ran sy’n cyd-fynd â ble rydych chi arni er mwyn i ni allu darparu’r cymorth mwyaf priodol.  

Beth am roi cynnig ar ein ffurflen hunanasesu? Atebwch gyfres o gwestiynau sy’n amrywio o arweinyddiaeth i seilwaith digidol i gael asesiad manylach o ble rydych chi arni ar eich taith ddigidol a chael awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf.  

Teclyn hunanasesu mabwysiadu technoleg ddigidol 

Rydym ni eisiau eich grymuso i drawsnewid y ffordd mae eich sefydliad yn defnyddio technoleg ddigidol gydag atebion cyflym i newidiadau mwy strategol. Rydym wedi dylunio ein teclyn hunanasesu i ganiatáu i sefydliadau’r trydydd sector ddysgu ble maen nhw arni ar eu taith ddigidol, a pha gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i ddatblygu. 

 

Mae ein teclyn wedi cael ei rannu’n ddau fersiwn 

Fersiwn Un: Mae'r ffurflen Tripetto hon yn eich tywys drwy gyfres o gwestiynau. Gan ddefnyddio eich ateb, bydd yn cynhyrchu sgôr, ac yn eich rhoi mewn categori yn awtomatig 

Fersiwn Dau: Mae hon yn dudalen statig, a chi fydd yn edrych drwy bob rhan, ac yn dewis pa ran sy’n gweddu i’ch sefydliad.  


Chwilgar

Mae hi’n bosibl fod gennym rywfaint o hanfodion digidol ar waith, fel cyfryngau cymdeithasol, a chyfarfodydd ar-lein, ac rydym yn cydnabod y gallem wneud mwy.

Arweinyddiaeth

Mae ein harweinwyr yn cydnabod bod angen iddynt wneud mwy, ond rydym yn betrusgar i symud ymlaen oherwydd nad ydym yn siŵr o’r cyfleoedd a’r risgiau. Gall deimlo ychydig yn llethol a dydym ni ddim yn gwybod ble i ddechrau.

Sgiliau

Nid oes gan ein staff ddigon o hyder na sgiliau digidol sylfaenol. Weithiau, rydym yn gofyn am help gan wirfoddolwyr gyda sgiliau digidol, ond pan fydd gwirfoddolwyr yn gadael, mae eu harbenigedd yn mynd hefyd.

Seilwaith Digidol

Ychydig iawn o seilwaith digidol sydd gennym. Rydym yn cyfathrebu drwy e-bost ond rydym yn dibynnu ar bapur ar gyfer y rhan fwyaf o’n gwaith o gasglu data a chadw cofnodion. 

Hoffem allu gwneud mwy, fel rhannu calendrau ac arbed dogfennau yn y cwmwl er mwyn i’r holl staff a gwirfoddolwyr allu cael mynediad atynt. Rydym ni angen help i gael trefn sylfaenol ar waith. 

Sut mae Gwasanaethau’n cael eu cynllunio

Rydym ni’n dylunio gwasanaethau drwy wrando’n astud ar y gymuned ac ymateb i’w hanghenion, ond dydym ni ddim yn hyderus ynghylch sut gall technoleg ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau.

Cyfathrebu a chynnwys

Rydym yn defnyddio dulliau digidol i gyfathrebu, fel e-byst a galwadau fideo. Rydym yn postio ar ein tudalen cyfryngau cymdeithasol o bryd i’w gilydd, ond nid ydym yn teimlo ein bod yn ei defnyddio’n effeithiol. Mae'n un peth arall i’w wneud ar ben llwyth gwaith prysur.

Diogelwch a diogelu data

Mae gennym bolisi diogelu data, ond hoffem wneud mwy i sicrhau ein bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio.

Ble i ddechrau 

Mae technoleg ddigidol yn bwnc enfawr, ac mae hi’n bosibl y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich llethu gan ble y dylech ganolbwyntio eich ymdrechion. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, y strategaeth bwysicaf yw cael eich sylfeini digidol yn gywir. Dilynwch y camau isod, a byddwch ar eich ffordd tuag at fwy o hyder a diogelwch. 

Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd 

Yn gyntaf oll, mae’n bwysig bod gennych bolisi Diogelu Data a Phreifatrwydd ar waith sy’n cael ei rannu â’ch staff a’ch gwirfoddolwyr er mwyn i chi allu delio â data’n ddiogel. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y mae angen i’ch polisi ei gynnwys isod:

Seiberddiogelwch

Mae’n hynod bwysig cadw eich sefydliad yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi llunio canllaw syml i helpu elusennau fel eich un chi i amddiffyn eu hunain rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin. 

Rydym yn eich cynghori i edrych ar y cwrs dysgu ar-lein am ddim ar gyfer sefydliadau bach gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

Symud o gasglu data ar bapur i gasglu data'n ddigidol 

Mae hi’n bosibl eich bod yn dal i ddefnyddio llawer o brosesau papur a rhai â llaw, sy’n gallu arafu eich gwaith. Fodd bynnag, mae llawer o atebion i’ch helpu i symleiddio’r broses o gasglu data. Mae llawer o declynnau digidol rhad ac am ddim ar gael i gasglu data. Yn hytrach na defnyddio papur, ceisiwch ddefnyddio dewis digidol i leihau'r gwaith papur sydd gennych. Mae NCVO wedi creu canllaw ar gyflwyno arolwg llwyddiannus a sut i ddewis y llwyfan cywir ar gyfer ffurflenni digidol.

Storio dogfennau a chydweithio â chydweithwyr yn y cwmwl

Mae rhoi trefn ar nodiadau cyfarfodydd, dogfennau, cynlluniau sesiynau a chynigion yn y cwmwl yn caniatáu i’ch tîm rannu dolenni at ffeiliau y gellir cydweithio arnynt, yn hytrach nag atodi copïau ac yna gorfod integreiddio newidiadau â llaw.

Gallwch ddarllen canllaw digidol yr elusen ar gyfrifiadura i’ch helpu i ddechrau arni.

Gwella sgiliau digidol eich staff

Ewch i sesiwn hyfforddi ar ddefnyddio technoleg ddigidol yn eich sefydliad. Mae cyfleoedd am ddim a chyfleoedd â thâl ar gael bob amser i'r trydydd sector i uwchsgilio eich tîm yn y maes digidol. Edrychwch ar ein tudalen i weld cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill a chofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr misol i gael crynodeb o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer y mis nesaf. Mae Google yn cynnal amrywiaeth o hyfforddiant sgiliau digidol gan gynnwys gweminarau byw a chyrsiau ar-lein. Edrychwch ar eu tudalen hyfforddi a Digital Garage i weld beth sy’n digwydd.

Oes gennych chi wirfoddolwr sy'n dda am Optimeiddio Peiriannau Chwilio neu Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial? Gofynnwch iddynt rannu'r hyn y maent yn ei wybod. Mae gwirfoddolwyr yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol a gallant ddod o bob math o gefndiroedd proffesiynol. Cofiwch feddwl sut gallwch chi ddysgu ac elwa o'r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi i’r tîm.

Os oes angen help arnoch i feddwl am gamau nesaf eich taith ddigidol, neu i’w rhoi ar waith, cysylltwch â Newid. 


Dechrau Arni  

Rydym ni’n dechrau ymgysylltu mwy â thechnoleg ddigidol, ond mae’n dal yn rhan fach o waith ein sefydliad. Rydym ni’n datblygu ein sgiliau, ond mae gennym ddiffyg hyder o hyd i ddefnyddio teclynnau digidol.

Arweinyddiaeth

Mae ein harweinwyr yn sylweddoli bod angen iddyn nhw ddysgu mwy am sut gall technoleg ddigidol helpu. Rydym yn agored i archwilio atebion digidol. 

Sgiliau

Mae sgiliau digidol sylfaenol yn dod yn fwy cyffredin, ac mae pwyslais cynyddol ar ddysgu a datblygu parhaus.

Seilwaith Digidol

Mae gennym rai systemau digidol ar waith; fodd bynnag, rydym yn dal i ddibynnu’n helaeth ar ffurflenni papur ac ar fewnbynnu data â llaw i’n systemau digidol.

Cyfathrebu a chynnwys

Mae hi’n bosibl fod gennym gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond nid oes gennym staff digidol pwrpasol. Rydym ni’n postio pan allwn ni, ochr yn ochr â’n tasgau eraill. Mae gennym ni wefan, ond dydym ni ddim yn ei diweddaru mor rheolaidd ag y byddem yn dymuno. Mae hi’n bosibl fod gennym gylchlythyr, neu rydym ni’n ystyried dechrau un.

Sut mae Gwasanaethau’n cael eu cynllunio

Rydym ni’n ceisio ymgorffori technoleg ddigidol yn ein gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae’n gweithio weithiau, ond ar adegau mae’n creu mwy o ddryswch a chymhlethdod. Rydym ni’n dda am wrando ar ein cymuned ac ymateb i’w hanghenion, ond rydym ni’n ansicr pa atebion digidol fyddai’n gweithio orau i ni ac i ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Oes angen ap arnom ni? A allai Deallusrwydd Artiffisial helpu?

Diogelwch a diogelu data

Mae gennym bolisi GDPR a/neu Ddiogelu Data ar waith ac rydym yn gwybod bod angen ei ddiweddaru’n gyson.

Ble i ddechrau 

Ar y lefel hon, mae hi’n bosibl y bydd gennych rai sgiliau digidol yn eich sefydliad a byddwch wedi rhoi rhai ffyrdd digidol o weithio ar waith. Rydych chi’n teimlo’n barod i gymryd y cam nesaf tuag at gofleidio technoleg ddigidol i wella sut rydych chi’n gweithredu ac yn darparu gwasanaethau. 

Seiberddiogelwch, Diogelu Data a Phreifatrwydd 

Mae cadw eich data a’ch systemau’n ddiogel yn dasg barhaus. Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, byddwch angen polisïau a phrosesau cadarn, ac mae angen i rywun ymgymryd â gwaith y Rheolydd Data. Fel rhan o’u Pecyn Cymorth Digidol, mae Cwmpas wedi casglu rhai o'r canllawiau gorau i'ch cefnogi chi. 

Ar y lefel hon, mae hi’n bosibl y byddwch eisiau cael eich Ardystiad Cyber Essentials. Bydd y cynllun hwn a gefnogir gan y llywodraeth yn eich helpu i ddiogelu eich sefydliad rhag yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin, beth bynnag fo maint eich sefydliad. 

Cyfathrebu a chynnwys 

Mae creu cynnwys a chyfathrebiadau diddorol yn ffordd bwysig iawn o ymgysylltu â’r bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau ac i hyrwyddo eich sefydliad ymysg darpar gyllidwyr.

  • Crëwch gynllun cyfathrebu a marchnata syml ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Mae Media Trust wedi creu Pecyn Cymorth Strategaeth Marchnata Digidol i helpu i greu cynllun helaeth, gan gynnwys Personas Cynulleidfa ac Amcanion Digidol.
  • Fel sefydliad trydydd sector, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael cyfrif Canva Pro am ddim? Gallwch wneud cais yn uniongyrchol ar eu gwefan. Mae’n declyn gwych ar gyfer creu cynnwys digidol diddorol ac mae ganddyn nhw lawer o dempledi i’ch rhoi ar ben ffordd. Edrychwch ar y canllaw hwn ar ddefnyddio nodweddion Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi’u cynnwys yn Canva.

Gosod eich Seilwaith digidol sylfaenol 

Mae seilwaith digidol yn cynnig un lle i chi a’ch tîm roi trefn a rhannu dogfennau i gydweithio ar brosiectau a gweithgareddau codi arian gan gadw gwybodaeth pobl yn ddiogel ar yr un pryd. Gall systemau digidol ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach cydweithio. Mae llawer o wahanol systemau digidol a all eich helpu i gyflawni gwahanol bethau. Rydym hefyd wedi creu canllaw i’ch helpu i ddewis un sy’n addas i’ch sefydliad chi. Dyma rai enghreifftiau: 

  • Calendrau a rennir: Gall pobl yn eich sefydliad weld amserlenni ei gilydd er mwyn gweld argaeledd ei gilydd yn hawdd. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr e-bost yn cynnwys hyn fel nodwedd am ddim, gan gynnwys Google a Microsoft
  • CRM neu gronfa ddata: Cadw popeth mewn un lle a rheoli a chadw golwg ar wirfoddolwyr, rhoddion neu gyllidwyr sydd gennych. Rydym wedi creu templed CRM hyblyg, rhad ac am ddim sy’n defnyddio Airtable i’ch rhoi ar ben ffordd. 
  • Systemau cyfrifyddu: Rheoli anfonebu, llif arian, treth, a thaliadau. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gadw cofnodion, monitro a chyfrifon, a gofynion cyfrifyddu elusennau ar yr Hwb Gwybodaeth. 

Os hoffech chi gael help i sefydlu system ddigidol, cysylltwch â DigiCymru i gael cymorth un-i-un am ddim. 

Uwchraddio eich technoleg 

Gall hen gyfrifiaduron neu liniaduron arafu eich gwaith. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi mai’r unig opsiwn weithiau yw hen gyfrifiadur oherwydd diffyg cyllid a gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth gydbwyso anghenion pwysig amrywiol. Os ydych chi’n gallu uwchraddio, rydym ni wedi creu canllaw i’ch helpu i ddewis gliniadur, a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gyflwyno achos dros brynu gliniadur da.

Sut mae Gwasanaethau’n cael eu cynllunio: 

Dylai’r holl wasanaethau a ddarperir gennych ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. Gallwn eich cefnogi i ddefnyddio technoleg ddigidol i ddatblygu eich gwasanaethau drwy weithio drwy bedair rhan o ddylunio gwasanaethau: Darganfod, diffinio, datblygu a darparu yn ystod ein cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael gwybod am y cwrs nesaf, neu rhowch eich enw ar y rhestr aros

Os oes angen help arnoch i feddwl am gamau nesaf eich taith ddigidol, neu i’w rhoi ar waith, cysylltwch â Newid. 


Datblygu

Mae technoleg ddigidol yn rhan o sut rydym ni’n gweithio, ond dydym ni ddim wedi gwreiddio hyn yn llawn eto. Rydym ni’n buddsoddi mewn technoleg ac yn datblygu ein sgiliau 

Arweinyddiaeth

Mae ein tîm arwain wedi ymrwymo i dechnoleg ddigidol. Rydym yn datblygu ein sgiliau, yn darllen am arweinyddiaeth ddigidol ac yn siarad â sefydliadau eraill sy’n fwy datblygedig yn ddigidol. Rydym yn buddsoddi mewn swyddi technoleg a digidol. 

Sgiliau

Rydym yn gwella sgiliau staff a gwirfoddolwyr mewn technolegau digidol sy’n berthnasol i’w swyddi. 

Seilwaith Digidol

Rydym yn defnyddio systemau digidol; fodd bynnag, rydym yn cael trafferth gyda TG blaenorol, ac mae ein systemau yn ein harafu. Rydym yn blaenoriaethu symleiddio ein prosesau, gan integreiddio awtomeiddio a diweddaru hen systemau.

Cyfathrebu a chynnwys

Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae gennym ni wefan, ond dydym ni ddim yn ei diweddaru’n rheolaidd. Does gennym ni ddim arweiniad clir ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. 

Sut mae Gwasanaethau’n cael eu cynllunio

Mae technoleg yn cael ei mabwysiadu fwyfwy i wella’r gwasanaethau a ddarperir, ac i wella profiadau a hygyrchedd defnyddwyr. Rydym yn dysgu am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a chylchoedd dylunio ystwyth ac ailadroddol. Rydym yn gwella sut rydym yn defnyddio ein data i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. 

Diogelwch a diogelu data

Mae arweinwyr yn mabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ymdrin â seiberddiogelwch, gan weithredu polisïau a gweithdrefnau cadarn i liniaru risgiau. 

Mae staff a gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant a diweddariadau rheolaidd ar arferion gorau diogelwch data a’u cyfrifoldebau. 

Ble i ddechrau

Seilwaith digidol

Dylech ystyried buddsoddi mewn uwchraddio hen systemau a gwasanaethau digidol presennol. Mae cael meddalwedd a systemau digidol araf yn gallu amharu ar eich gwaith. 

Sgiliau a Swyddi Digidol

Ewch ati i greu matrics sgiliau i weld a oes unrhyw fylchau yn ngwybodaeth eich tîm am dechnoleg ddigidol. Oes modd i chi lenwi’r bylchau hyn drwy uwchsgilio staff presennol neu gyflogi rhywun newydd i ymuno â’r sefydliad?

Gwiriwch eich disgrifiadau swydd ar gyfer eich staff a’ch gwirfoddolwyr, a ydynt yn cynnwys sgiliau digidol fel rhan o fanylebau’r person? Efallai y byddwch am gynnwys cyfeiriadau at dechnoleg ddigidol i ddenu staff newydd sy’n gallu rhannu eu gwybodaeth â gweddill eich sefydliad. Edrychwch ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol i gael ysbrydoliaeth ynghylch beth i’w gynnwys yn eich disgrifiadau swydd. 

Data a mewnwelediadau

Mae’n syniad da edrych ar ba ddata rydych chi’n ei gasglu a sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Gallai hyn amrywio o faint o bobl sy’n clicio dolenni yn eich cylchlythyr, pa negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n cael yr ymgysylltiad mwyaf, a nodi tueddiadau cyffredin yn lleoliad y bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau. Gall data eich helpu i ddeall anghenion a gofynion a monitro pa mor dda mae eich gwasanaethau’n gweithio. Mae edrych ar Data Orchard a Data Cymru yn lle da i ddechrau.

Service Design 

Bydd mabwysiadu’r broses o ddylunio gwasanaethau ar draws eich sefydliad yn eich cefnogi i esblygu ac addasu’n barhaus mewn ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg. Sicrhewch bod eich holl staff yn hyderus gyda’r ffordd hon o weithio. I ddysgu mwy, gallwch gofrestru ar gyfer ein cwrs am ddim.

Cynnal ymchwil darganfod i weld a yw eich gwasanaethau yn diwallu anghenion eich defnyddwyr. Gallai hyn fod ar ffurf cyfweliadau, holiaduron, personâu, a mapio teithiau i ddeall yn iawn anghenion, profiadau a heriau defnyddwyr eich gwasanaeth. I ddysgu mwy am gynnal ymchwil darganfod, gwyliwch y fideo hwn gan ProMo Cymru. Os hoffech gael eich cefnogi i ddilyn y broses o ddylunio gwasanaeth a gwella eich gwasanaeth ar gyfer eich defnyddwyr, gallwch gofrestru ar y rhestr aros ar gyfer ein cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol.

Os oes angen help arnoch i feddwl am gamau nesaf eich taith ddigidol, neu i’w rhoi ar waith, cysylltwch â Newid. 


Gwneud Cynnydd  

Mae technoleg ddigidol yn rhan annatod o’n strategaeth sefydliadol ac mae wedi’i wreiddio ym mhopeth a wnawn. 

Crëwyd y diffiniadau yma gan NCVO yn eu Matrics Aeddfedrwydd Digidol.

Arweinyddiaeth

Mae diwylliant ein sefydliad yn cefnogi ymddygiadau sy’n galluogi defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol, fel profi a dysgu, bod yn agored i syniadau newydd a chydweithio. Mae arweinwyr ein sefydliad yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain newid digidol yn barhaus.

Sgiliau

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi i ddysgu sgiliau digidol newydd ac yn cael eu grymuso i ddatblygu eu gwybodaeth ddigidol eu hunain yn barhaus.

Seilwaith Digidol

Mae ein systemau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd a gyda systemau allanol os oes angen. Rydym yn deall ac yn cyllidebu ar gyfer costau parhaus i gefnogi, cynnal a gwella ein technoleg.

Cyfathrebu a chynnwys

Rydym yn deall pa sianeli digidol mae ein cynulleidfaoedd yn eu defnyddio ac yn dyrannu ein hadnoddau yn unol â hynny. Rydym hefyd yn mesur, yn dadansoddi ac yn gwerthuso perfformiad ein cyfathrebiadau digidol i wella ein gwaith yn y dyfodol. 

Sut mae Gwasanaethau’n cael eu cynllunio

Rydym yn deall anghenion ein defnyddwyr. Rydym yn defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau a gwella ein gwasanaethau. Rydym yn addasu ein gwasanaethau’n barhaus mewn ymateb i dechnoleg newydd ac anghenion sy’n newid.

Diogelwch a diogelu data

Mae ein harweinwyr yn cymryd perchnogaeth dros risgiau seiberddiogelwch, ac mae staff a gwirfoddolwyr yn deall eu cyfrifoldebau o ran diogelu data a thechnoleg. 

Ble i ddechrau  

Ar y lefel hon, mae technoleg ddigidol wedi’i gwreiddio yn y ffordd mae eich sefydliad yn rhedeg. Mae wedi’i hintegreiddio i bob lefel o’ch mudiad, o staff rheng flaen i ymddiriedolwyr. 

Rydych yn arbrofi gyda thechnoleg newydd ac yn cynllunio ar gyfer sut y gallai'r rhain effeithio ar eich gwasanaethau a'ch defnyddwyr.  

Er eich bod ymhell ar y blaen o ran eich defnydd digidol, nid yw eich taith ddigidol byth ar ben. Mae datblygiadau newydd cyffrous bob amser y gellir eu defnyddio a’u rhoi ar waith yn eich sefydliad. 

Arbrofi gyda theclynnau digidol newydd

Mae teclynnau digidol yn cael eu creu a’u datblygu’n barhaus, ac mae’n bwysig neilltuo amser i roi cynnig arnynt. Arbrofwch gyda theclynnau awtomatiaeth fel Zapier a Make i’ch helpu i arbed amser. Pa dasgau allwch chi eu hawtomeiddio? I gael ysbrydoliaeth, darllenwch sut mae Canolfan Gymunedol a Diwylliannol yn defnyddio Zapier i ddiweddaru eu rhestr bostio yn awtomatig.

Neu, arbrofwch â theclyn fel Calendly neu Cal.com sy’n galluogi pobl i weld eich calendr yn fyw, sy’n dangos pa bryd rydych chi ar gael, gan adael i rywun drefnu cyfarfod yn uniongyrchol i’ch calendr. Drwy wneud hynny, mae’n lleihau negeseuon e-bost yn ôl ac ymlaen yn ceisio trefnu amser a dyddiad sy’n addas i bawb.

Cynnwys rhai ymddiriedolwyr digidol 

Mae angen i chi gael ymrwymiad ar gyfer technoleg ddigidol ar bob lefel yn eich sefydliad, gan gynnwys eich bwrdd. I'ch helpu i ddechrau arni, mae Charity Digital wedi creu canllaw ar sut i recriwtio’r ymddiriedolwr digidol cywir

Mae’r Third Sector Lab yn cynnal sesiynau am ddim sy’n para hanner awr, i “gael eich bwrdd i gymryd rhan” mewn technoleg ddigidol a rhoi arweiniad ar ddod o hyd i ymddiriedolwyr digidol a’u recriwtio. Mae ganddynt hefyd rwydwaith o weithwyr proffesiynol digidol sydd â diddordeb mewn ymuno â bwrdd o ymddiriedolwyr y gallwch ddewis o’u plith. 

Helpu i ddatblygu’r sector 

Rhannwch eich gwybodaeth â sefydliadau tuag at ddechrau’r raddfa mabwysiadu technoleg ddigidol. Cynlluniwch weminar i rannu eich arbenigedd a helpu sefydliadau eraill yn y sector i ddatblygu eu sgiliau, neu rhowch neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhannu cyngor campus.

Os oes angen help arnoch i feddwl am gamau nesaf eich taith ddigidol, neu i’w rhoi ar waith, cysylltwch â Newid. 


Diolch yn fawr am ddefnyddio ein teclynnau. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr, ac yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych ar ba mor ddefnyddiol yw'r teclynnau. Diolch i’r holl sefydliadau a helpodd i lywio’r broses hon yn ystod ein hymchwil.  

 

Dim ots ble rydych chi arni ar eich taith ddigidol, mae Newid yma i’ch cefnogi chi ar hyd y ffordd er mwyn i chi allu treulio mwy o amser gyda’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.  

 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu