Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Mae gennym gyfle cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru ymuno â ni ar her ddylunio.
​Byddwn yn edrych ar sut gall digidol wella’r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu i’ch defnyddwyr drwy ddilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu.
​
​Nodau
- ​Darparu gwybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr fel y gallant gynllunio gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person.
- ​Hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol.
​
Deilliannau dysgu
​Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn:
- ​Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu
- ​Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio
- ​Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol
- ​Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
- ​Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth
- ​Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
- ​Cael mynediad at adnoddau
​
​Strwythur y cwrs
​Dros yr 8 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr.
​
​Cyfnod Darganfod
​1. Gweminar Cyflwyno: 17 Mehefin 10 am - 1 pm [AR-LEIN].
- ​Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well.
- ​Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser
​
​Cyfnod diffinio
​2. Gweithdy Prototeipio: 17 Gorffennaf, 10 am - 1 pm [WYNEB YN WYNEB], lleoliad i ddilyn.
​Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb yma, byddwch yn cael eich arwain drwy weithgareddau i ddylunio prototeip digidol newydd o'ch gwasanaeth.
- ​Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth. Byddwn yn ad-dalu costau teithio.
​
​Cyfnod datblygu
​Bydd gennych bedair wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau.
​3. Gweminar Olaf: 14 Awst, 10am - 1 pm [AR-LEIN]
- ​Ar ddiwedd yr wyth wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni.
​
​Tasgau hunan-astudio
​Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun.
​Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs.
​
​Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr
​Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect.
​
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
​Mae’r cwrs yma ar gyfer sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
​Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.
​
​Beth ydy Newid?
​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
​
​Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu?
​Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu