Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Rydym yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.

Rydym yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.
🚀
Mae cofrestru ar gyfer y cwrs yma wedi cau. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i gael gwybod am y cwrs nesaf, neu e-bostiwch lucyp@promo.cymru i fynd ar y rhestr aros.
Bwriad y cwrs yw darparu’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr, a’u hysbrydoli nhw i gymryd mantais o ddulliau digidol i gael yr effaith gymdeithasol gorau posib.

Yn ystod y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn:
- Cael y cyfle i ddatrys her go iawn sy’n wynebu eu sefydliad
- Ymroi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
- Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eu gwasanaeth a’u hanghenion
- Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
- Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person wrth ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth
- Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
- Cael mynediad i offer ac adnoddau digidol

Beth yw trefn y cwrs?
Mae’r cwrs yn cynnwys 2 ran. Y rhan cyntaf yw gweminar yn cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth a pham ei fod yn gweithio ar gyfer gwasanaethau digidol. Gallech ddewis i fynychu’r modiwl cyntaf yn unig, neu os oes gennych chi brosiect cynllunio gwasanaeth i weithio arni, gallech chi gwblhau’r ail ran lle darparir cefnogaeth i ddatblygu eich gwasanaeth digidol.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu