Barn y Loteri Genedlaethol ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ceisiadau am gyllid

Cronfa Gymunedol Gweiadur
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhyddhau datganiad ar eu safbwynt ynglŷn ag elusennau’n defnyddio deallusrwydd artiffisial megis Chat GPT i ysgrifennu eu ceisiadau am gyllid.

Yn gryno, maent yn caniatáu’r defnydd o dechnoleg fel Chat GPT fel cymorth i ysgrifennu’r ceisiadau. Er hyn, maent yn cynghori pobl i’w defnyddio’n ofalus. 

Gall adnoddau deallusrwydd artiffisial fod yn fan cychwyn gwych ond gallant greu cynnwys cyffredinol nad yw’n cyfleu nodweddion unigryw eich sefydliad. Yn eu datganiad, maent yn rhoi cyngor ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial wrth ysgrifennu eich cais, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’i ddefnyddio. 

 
Eu prif bwyntiau oedd

Peidiwch â dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial: Cofiwch olygu eich cynnwys deallusrwydd artiffisial i adlewyrchu anghenion eich cymuned, gan roi manylion penodol ac enghreifftiau go iawn i sicrhau nad yw ceisiadau am gyllid yn swnio’n rhy gyffredinol 

Byddwch yn benodol yn eich cais: Amlinellwch weithgareddau, effaith a chyllideb eich prosiect yn glir, gan gynnwys pam mae eich prosiect yn unigryw.  

Gwiriwch allbwn deallusrwydd artiffisial: Gwnewch yn siŵr bod y cynnwys yn gywir a byddwch yn ofalus o ran pa ddata rydych yn ei rannu â’r rhaglen deallusrwydd artiffisial, oherwydd mae rhai yn storio’r data rydych yn ei roi.  

Meddyliwch cyn ei ddefnyddio: Mae deallusrwydd artiffisial yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd felly peidiwch â’i ddefnyddio yn ddiangen.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu