Anghenion Digidol y Trydydd Sector yng Nghymru: Adroddiad Darganfod Newid 2024

Newid Adroddiad Darganfod 2024
Ymchwil wedi ei gyflawni gan ProMo Cymru
Rydyn ni ar daith barhaus i ddysgu mwy am y ffordd orau y gall Newid gefnogi Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru i ddatblygu eu gallu digidol. Felly, fe fuom yn siarad â chi i ganfod eich anghenion a’ch rhwystrau er mwyn i ni allu eich cefnogi yn y ffordd orau bosibl.

Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a’n casgliadau ar sail ein hymchwil. Gallwch lwytho’r adroddiad llawn i lawr fel PDF neu gallwch ddarllen yr adroddiad ar-lein.

Cawsom ein hysbrydoli gan adroddiad arbennig, sef Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau. Mae eu gwaith yn rhoi trosolwg o sgiliau digidol, agweddau ac ymddygiad yn y Trydydd Sector ledled y Deyrnas Unedig. Ar gyfer ein hymchwil, roeddem am ganolbwyntio’n benodol ar Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru ac edrych yn fanwl ar eu heriau, eu hanghenion a’u hagweddau tuag at dechnoleg ddigidol. I ddysgu mwy, aethom ati i siarad ag un ar ddeg o bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar ran elusennau ledled Cymru, sy’n amrywio o ran maint a lefelau aeddfedrwydd digidol.  

Dyma’r pwyntiau a godwyd yn ystod ein sgyrsiau

  1. Yr heriau sy’n wynebu Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru 
  2. Yr hyn sy'n rhwystro sefydliadau rhag gallu cefnogi eu defnyddwyr gwasanaeth neu eu buddiolwyr 
  3. Materion y gall technoleg ddigidol helpu i’w datrys 
  4. Yr heriau na all technoleg ddigidol fynd i'r afael â nhw 
  5. Sut mae Sefydliadau Trydydd Sector yn creu gwasanaethau 
  6. Dealltwriaeth Sefydliadau Trydydd Sector o dechnoleg ddigidol 
  7. A oes gwahaniaeth rhwng sefydliadau o ran eu lefelau aeddfedrwydd 
  8. Dyheadau ar gyfer sut y gallai Sefydliadau Trydydd Sector edrych yn ddigidol mewn 5 i 10 mlynedd 

  

 

Crynodeb o'r hyn a ddysgom 

Straen ar y sector 

Mae sefydliadau’n wynebu mwy o alw am eu gwasanaethau, sy’n cael ei waethygu gan yr argyfwng costau byw presennol ac anghenion cynyddol defnyddwyr gwasanaethau. Mae’r straen hwn yn cael ei waethygu gan adnoddau cyfyngedig a gwasanaethau cyhoeddus sy’n orlawn. Clywsom am ddirywiad mewn iechyd meddwl, pobl yn mynd yn fwyfwy ynysig, llai o wirfoddolwyr a diffyg cyllid cynaliadwy. 

Baich gweinyddol 

Daeth tuedd bryderus i'r amlwg o sefydliadau'n treulio gormod o amser ar weinyddu. Mae systemau hen ffasiwn, prosesau aneffeithlon, a gofynion adrodd yn rhwystro sefydliadau rhag gallu cyflawni eu gwaith craidd gyda defnyddwyr gwasanaethau. Clywsom y gall technoleg ddigidol helpu, ond mae systemau hen ffasiwn yn golygu bod hynny’n faich hefyd, ac mae sefydliadau’n cael trafferth dod o hyd i’r amser i ddatrys hyn.  

Y gallu i arloesi 

Diffyg amser i arloesi neu ailfeddwl pethau oedd y rhwystr mwyaf cyffredin i newid. Mewn sefydliadau llai, nid oedd y capasiti staff na’r sgiliau i weithredu’r atebion cywir ganddynt, ac mewn sefydliadau mwy roedd materion fel defnyddio nifer o systemau, prosesau gorgymhleth a dyblygu data yn effeithio arnynt. Roedd y rhan fwyaf o sefydliadau’n cydnabod bod ffordd well o wneud pethau (a oedd yn ychwanegu at y rhwystredigaeth), ond nid oeddent yn teimlo bod ganddynt yr amser, y lle ac, mewn rhai achosion, y sgiliau i roi newid ar waith.  

Sgiliau Digidol 

Mae sgiliau digidol a hyder hefyd yn rhwystrau. ⁠Tra bod rhai mudiadau yn aeddfed yn ddigidol, rhannodd rhai diffyg sgiliau digidol sylfaenol, fel defnyddio Teams, calendr ar-lein, neu gysylltu i argraffydd. 

Cyllid 

Mae cyfyngiadau cyllido yn arwain at gapasiti cyfyngedig i fuddsoddi amser ac adnoddau mewn trawsnewid digidol. Mae sefydliadau’n ei chael hi’n anodd sicrhau cyllid cynaliadwy, yn enwedig ar gyfer costau craidd. Nid oes llawer o gyllid ar gael i helpu sefydliadau i wneud y gwaith mewnol sydd ei angen i wella ac ailystyried eu systemau a chyflenwi gwasanaethau. 

Gobaith 

Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd galw ac awydd i ddysgu a chofleidio’r byd digidol. ⁠Mae cyfle enfawr yma i  ddefnyddio digidol i gefnogi mudiadau i symleiddio eu gwaith, gwella effeithlonrwydd, a rhyddhau amser yn y pen draw.  

Mae’r sector angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol 

Oherwydd y cyd-destun presennol y mae pobl yn gweithio ynddo, mae’n hollbwysig darparu cyngor, arweiniad, cefnogaeth ac atebion sy’n berthnasol i fudiadau Trydydd Sector Cymru.

 

Rydyn ni’n defnyddio canfyddiadau ein hymchwil i lywio sut rydyn ni’n cefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru. 

 

Datrysiad Prototeipio 

 O’n dadansoddiad, fe wnaethom feddwl am dri pheth i helpu’r Trydydd Sector.  

 

Diolch i’r holl bobl a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn yr ymchwil hon. 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu