Adnodd Asesu Risg AI Am Ddim i’r Trydydd Sector

Hyfforddwr yn pwyntio at sleid ddwyieithog sydd yn dweud Egwyddorion AI yng Nghymraeg a Saesneg
Llun gan ProMo Cymru

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn trawsnewid sut mae elusennau a sefydliadau nid er elw yn gweithredu, gan helpu i symleiddio gweithredoedd ac arbed amser allweddol i elusennau. Fodd bynnag, mae risgiau ynghlwm â’r cyfleoedd hyn, gan gynnwys pryderon moesol, problemau â diogelwch data, a thuedd bosibl mewn penderfyniadau a lywir gan AI.

Er mwyn helpu sefydliadau i lywio’r heriau hyn, mae Newid wedi datblygu adnodd Asesu Risg AI am ddim i gefnogi â mabwysiadu AI yn gyfrifol yn y trydydd sector. 

Pam Mae’r Adnodd Hwn yn Bwysig 

Mae AI yn cael ei ymgorffori’n gynyddol mewn ffrydiau gwaith o ddydd i ddydd, o ddadansoddi data yn awtomatig i sgwrsfotiau a arweinia AI ac adnoddau cynhyrchu cynnwys. Ond, heb agwedd strwythuredig at asesu risg, gall elusennau ddatgelu data sensitif yn anfwriadol, defnyddio adnoddau anaddas, neu fethu â chydymffurfio â chanllawiau cyfreithiol neu foesol.  

Mae’r Asesiad Risg AI gan Newid yn grymuso sefydliadau i wneud penderfyniadau deallusol a chyfrifol ynghylch defnydd AI. Mae’n darparu fframwaith clir i asesu risgiau, rhoi camau diogelu ar waith, a sicrhau bod AI yn cyd-fynd â gwerthoedd sefydliadol ac anghenion defnyddwyr. 

 

Sut Mae’n Gweithio 

Mae’r adnodd hwn wedi’i ddylunio ar gyfer cydweithrediad. Mae'n galluogi timau i: 

  1. Ganfod adnoddau AI sy’n cael eu defnyddio: Rhestrwch bob adnodd a arweinia AI y mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio a dogfennwch ei bwrpas. 
  2. Asesu risgiau a mesurau lliniaru: Ar gyfer pob adnodd, amlinellwch risgiau posibl a chynigiwch fesurau lliniaru i sicrhau defnydd diogel a chyfrifol. 
  3. Adolygu telerau defnyddio: Deallwch sut mae pob adnodd yn prosesu a storio data i sicrhau cydymffurfiad â pholisïau diogelu data. 
  4. Wneud penderfyniadau deallusol: Penderfynwch ba adnoddau AI sy’n addas ar gyfer anghenion eich elusen a sefydlwch ganllawiau defnydd. 
  5. Ddatblygu polisi AI: Crëwch bolisi strwythuredig sy’n cyfathrebu’r arferion gorau sy’n ymwneud ag AI i bob aelod staff, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.

 

Dechreuwch Ddefnyddio’r Adnodd Asesu Risg AI Heddiw 

Mae AI yn cynnig buddion pwerus, ond mae rhaid ei ddefnyddio’n gyfrifol. Mae Adnodd Am Ddim i Asesu Risg AI gan Newid yn darparu’r wybodaeth a’r strwythur sy’n angenrheidiol i sefydliadau’r trydydd sector ymgorffori AI yn ddiogel ac yn foesol. 

 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu