Lansiad Newid
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi lansiad Newid - gwasanaeth i gefnogi'r trydydd sector gyda digidol wrth gynnig hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth.
Mae Newid wedi cael ei gynllunio yn ôl y ddarpariaeth, a'r adborth o'n gwasanaeth prototeipio cychwynnol.
Mae'r wefan yma yn le i ddilyn neu <cofrestru> ar gyfer ein gwaith. Byddem yn rhannu gwybodaeth ac yn canfod mewnwelediadau fel bod trydydd sector Cymru yn gallu deall a defnyddio ffyrdd digidol o weithio.
Rydym yn codi ymwybyddiaeth o safonau gwasanaeth digidol Cymru'r CGCD a dulliau i wella digidol yn y trydydd sector sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Ariannir Newid gan Lywodraeth Cymru.
Gwaith blaenorol
Yn fuan yn 2021, aeth CGGC a Cwmpas ati i gomisiynu gwaith ymchwil i ddiffinio'r gefnogaeth roedd trydydd sector Cymru ei angen gyda digidol.
Roedd adroddiad Darganfyddiadau Digidol ar gyfer trydydd sector Cymru gan ProMo-Cymru a Dotiau yn amlygu'r angen am raglen cefnogaeth wedi ei gydlynu ar gyfer y sector yng Nghymru.
Yn fis Tachwedd 2021, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, lansiwyd Newid fel rhaglen beilot i brofi'r ffordd orau i ddarparu cefnogaeth.
Yr hyn y gwnaethom a dysgom
Arolwg gwaelodlin
- Creu arolwg i sefydlu anghenion y sector.
Yr hyn a ddysgom - Llenwodd 536 o sefydliadau'r arolwg, a ddangosodd lefel uchel o ddiddordeb mewn cymorth digidol yn y trydydd sector.
Ar yr arolwg gwaelodlin, roedd sgôr cyfartalog Pobl a Sgiliau yn ardal amlwg lle'r oedd angen mwy o sylw yn y dyfodol i sefydliadau bach a mawr y trydydd sector.
Hyfforddiant Cynllunio Gwasanaeth
- Cynnal dau gwrs Cynllunio Gwasanaeth. Helpu sefydliadau i ddysgu dulliau ymarferol i adeiladu gwasanaethau digidol gwell gyda phobl.
Yr hyn a ddysgom - Yn aml, amser yw'r cyfyngiad mwyaf i gynllunio a gwella gwasanaethau yn y trydydd sector. Mae sefydliadau trydydd sector yn gwerthfawrogi cymorth ymarferol a chael amser i archwilio a phrofi offer a dulliau newydd.
Strategaeth Ddigidol
- Mae sefydliadau yn gwerthfawrogi cymorth i adnabod blaenoriaethau digidol a'u gosod mewn cynllun gweithredu cynhwysol a phragmatig sydd yn syml i'w ddilyn.
Yr hyn a ddysgom
- Nid oes rhaid i welliannau digidol fod yn dechnegol nac yn gymhleth. Mae sawl sefydliad wedi gallu symud ymlaen o ganlyn ein gwaith yn rhannu digidol yn ddarnau neu dasgau haws gellir eu rhannu ar draws y sefydliad.
Cymuned Ymarfer
- Daethom ag eiriolwyr digidol o ledled Cymru at ei gilydd i rannu profiadau. Defnyddiwyd grŵp Facebook fel lle i rannu pynciau a diweddariadau rheolaidd.
Yr hyn a ddysgom
- Rydym angen datblygu'r diwylliant digidol o weithio'n agored ledled Cymru. Mae yna sawl datrysiad sydd yn gallu cael eu hail-bwrpasu neu eu rhannu bydda o werth gwirioneddol i'r trydydd sector fel sydd yn wir yn rhannau eraill o'r DU.
Digwyddiadau Digidol i Ymddiriedolwyr
- Rhaglen o sgyrsiau i gefnogi ymddiriedolwyr i ddatblygu digidol yn eu sefydliadau.
Yr hyn a ddysgom - Mae adborth ein digwyddiadau yn dangos bod y mynychwyr eisiau mwy o sesiynau cyflwyno byr ar wahanol bynciau digidol a'u perthnasedd i rôl yr ymddiriedolwyr. Rhannodd y mynychwyr bod ganddynt "fannau dall digidol" ac nad oedd posib gwybod yr hyn doeddent ddim yn gwybod, ac roedd hyn yn cael effaith ar eu gallu i ddarganfod y cymorth oedd ei angen arnynt.
Hyfforddiant sgiliau digidol i sefydliadau aelodaeth, seilwaith ac ymbarél y trydydd sector
- I'w galluogi i gefnogi'r sefydliadau maent yn gweithio â nhw yn well gydag ystod eang o bynciau digidol.
Yr hyn a ddysgom - Yn aml, mae amser (neu ddiffyg amser) yn rhwystr i ddysgu sgiliau digidol newydd. Roedd sefydliadau yn gwerthfawrogi derbyn hyfforddiant wedi’i deilwro i'r trydydd sector yng Nghymru a gweld sut roedd offer a dulliau digidol yn gallu cefnogi eu gwaith. Mae angen cefnogaeth bellach i alluogi sefydliadau i rannu'r hyn dysgwyd gydag eraill.
Adnoddau ar bynciau digidol gwahanol
- Creu cynnwys fel bod y trydydd sector yn deall digidol yn well.
Yr hyn a ddysgom - Mae yna eisioes amrywiaeth o gynnwys da sydd yn gallu cefnogi'r sector gyda digidol. Roedd sefydliadau yn gwerthfawrogi cynnwys oedd yn adlewyrchu'r trydydd sector yng Nghymru.
Beth sydd nesaf?
Dros y tair blynedd nesaf, byddem yn defnyddio dull dysgu ac iteru i ddatblygu rhaglen o waith ar gyfer Newid. Byddem yn dysgu o'r hyn sydd yn llwyddiannus, ar hyn sydd ddim, fel y gallem wella'r ffordd rydym yn cefnogi'r trydydd sector.
Mae ein dull o weithio yn cael ei arwain gan fethodoleg gelwir yn Cynllunio Gwasanaeth.
Eleni byddem yn:
- Datblygu cyrsiau hyfforddiant sydd yn addas ar gyfer holl sefydliadau'r trydydd sector.
- Cynnig cefnogaeth un i un gyda strategaeth ddigidol.
- Cyflwyno mwy o hyfforddiant manwl a chefnogi sefydliadau i roi cynnig ar offer a dysgu dulliau newydd.
- Gweithio gyda sefydliadau seilwaith trydydd sector yng Nghymru i gefnogi dysgu digidol.
- Ychwanegu offer ac adnoddau defnyddiol i'r wefan er mwyn helpu sefydliadau trydydd sector yng Nghymru gyda digidol a chysylltu i amrywiaeth o adnoddau defnyddiol eraill.
- Sicrhau ein bod yn darparu dull cydgysylltiedig fel bod sefydliadau yn cael mynediad i gymorth.
Manylion am y wefan
Mae'r wefan yn cael ei gynnal ar y llwyfan Ghost, sydd yn cael ei reoli gan sefydliad dielw. Cafodd y llwyfan yma ei dewis gan ei bod yn caniatáu gwefan sydyn, syml a hawdd i'w ddefnyddio ar gyfer yn cael mynediad i'r wefan ac i'r tîm Newid sydd yn ei reoli. Bydd yna newidiadau a gwelliannau i'r wefan yn seiliedig ar ein hymchwil, dadansoddeg ac adborth. Rhannir eglurhad mwy manwl am y wefan mewn post arall.
Y bartneriaeth Newid
Mae Newid yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, gyda chefnogaeth Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu